8. 6. ‘Diogelu Dyfodol Cymru’: Trefniadau Pontio o'r Undeb Ewropeaidd i Berthynas Newydd ag Ewrop

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 7 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 5:45, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch fawr, Lywydd. Nid yw hon yn ddadl ynghylch a ddylem aros yn yr UE. Rydym i gyd wedi symud ymlaen o hynny. Rwy'n gresynu’r canlyniad yn fawr, ond y canlyniad yw’r canlyniad. Yn awr, mae gennym nod cyffredin, sef sicrhau Brexit llwyddiannus. Ceir heriau sy'n wynebu'r DU a Chymru yn y cyd-destun hwnnw. Rwy'n credu y bydd angen diwygio rhai o fecanweithiau’r Llywodraeth a gwaith rhyng-lywodraethol yn arbennig o fewn y DU. Hoffwn i ddweud ychydig eiriau am hynny. Hoffwn ddweud ychydig eiriau am ein cysylltiadau â'r UE, ac yna mae rhai buddiannau sy’n benodol i Gymru.

A gaf i i ddechrau, felly, gyda strwythur Llywodraethu y DU? Rwy’n credu ein bod wedi sylweddoli ers amser hir y byddai gweithio rhynglywodraethol gwell yn cryfhau cyfansoddiad Prydain, ac yn awr y broses Brexit ei hun, ac yna ymdrin â gwleidyddiaeth pan fyddwn wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd—mae angen gweithio rhynglywodraethol llawer mwy effeithiol ar y pethau hyn. Gallwn edrych ar gyd-bwyllgor y gweinidogion, yn enwedig Cyd-bwyllgor Gweinidogion Ewrop, o ran y ffordd y mae wedi gweithio yn y gorffennol, fel rhyw fath o fodel gorau, ond mae angen i ni fynd hyd yn oed ymhellach na hynny. Fe wnaeth Cyd-bwyllgor Gweinidogion Ewrop weithio’n weddol effeithiol am eu bod wedi cynhyrchu—mae’n ddrwg gen i fod yn dechnegol—nodyn siarad ar ran Cyd-bwyllgor y Gweinidogion yn Ewrop, ac roedd angen llawer o gydweithrediad yn hynny o beth rhwng y Llywodraethau, ac yn enwedig y swyddogion. Dyna'r math o beth yr ydym yn mynd i fod angen ei ailadrodd.

Mae’r Prif Weinidog, yn y Papur Gwyn, yn gwneud rhai awgrymiadau beiddgar iawn, yn fy marn i, y dylem fynd o Gydbwyllgorau Gweinidogion i Gyngor Gweinidogion. Rwy'n credu ei fod yn iawn i bwyso am hynny. Rwy’n gobeithio bod ganddo gynghreiriaid yn yr Alban a Gogledd Iwerddon gan eu bod yn mynd i fod yn allweddol. Ac mae wedi galw am gyflafareddu annibynnol—nawr, fel ffederalydd mawr, dymunaf yn dda iddo ac, yn arbennig, rwy’n dymuno mwy o ddylanwad iddo nag yr wyf i erioed wedi ei gael ar y Llywodraethau Ceidwadol sy'n penderfynu ar y materion hyn. Byddai cyflafareddu, rwy’n tybio, yn bosibl ar system grantiau’r Trysorlys. Mae hynny'n cael ei weld yn bendant mewn gwladwriaethau ffederal eraill. Ond rwy’n credu y gall cyflafareddu ar draws y fframwaith polisi, lle mae gennym bolisïau ar y cyd yn y DU, fod yn anodd ei gyflawni. Ond os llwydda i gyflawni hynny, byddai'n sicr o fudd i ni yma yng Nghymru.

Rwy’n credu bod yr hyn a welwn yn y Papur Gwyn ynghylch yr angen am rai polisïau ar draws y DU—yn ôl pob tebyg amaethyddiaeth, yr amgylchedd, ac efallai y bydd materion cymdeithasol a pholisi rhanbarthol hefyd. Ni ddylai'r un ohonom anghofio hynny, ac rwy’n gwerthfawrogi’r holl bleidiau sydd wedi cydnabod hynny.

A gaf i yn awr droi at gysylltiadau â'r UE? Yma, rwy’n credu bod angen i’r Brexiteers ddatrys eu dadl yn weddol gyflym, oherwydd mae rhai ohonyn nhw’n sôn yn llawen am y posibilrwydd o’r UE yn dymchwel gyda'r farchnad sengl a'r ewro. Maent wedi clymu eu hunain at y teigr Trump, sydd wedi dweud rhai pethau llac iawn yn y cyfeiriad hwn. Ac i ble y bydd y teigr yn mynd â ni, wel, ‘does neb a ŵyr eto, ond rwy’n credu y bydd yn daith braidd yn anghyfforddus. Mae angen i ni ddweud ein bod am i'r UE ffynnu. Dyna pam mae angen i ni gael Brexit da ac effeithiol. Mae angen iddynt gael y cyfle nawr i fwrw ymlaen â'u hamcanion eu hunain a’u hangen eu hunain am ddiwygio, sydd yno—mewn unrhyw sefydliad, unrhyw wladwriaeth, mae angen gwaith cyson o ddiwygio. Mae angen i ni gael y rhethreg yn iawn yn hyn o beth. Nid yw gwneud bargen â nhw, a ninnau’n eu beirniadu nhw neu’n ymddangos i’w beirniadu, beth bynnag, yn ffordd dda o symud ymlaen. [Torri ar draws.] Ildiaf.