Part of the debate – Senedd Cymru am 6:23 pm ar 7 Chwefror 2017.
Yn ogystal â chefnogi’r Papur Gwyn hwn heddiw, a yw'r Aelod yn cytuno y dylai Aelodau yma yn y Siambr hon hefyd gefnogi gwelliant Plaid Cymru er mwyn dangos ein bod yn ddigon penderfynol yma am bwysigrwydd sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed a'i barchu, ein bod yn dweud na allwn gefnogi erthygl 50 yn awr hyd nes y byddwn yn cael y diogelwch a hyd yn oed y fframwaith sydd eu hangen arnom, ac mae honno’n dyletswydd arnom i bobl, pa bynnag ffordd y gwnaethant bleidleisio yn y refferendwm?