Part of QNR – Senedd Cymru ar 7 Chwefror 2017.
Mae Estyn yn adolygu’r ddarpariaeth o addysg ariannol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, ac fe fydd yn cyhoeddi’r canfyddiadau yn y gwanwyn. Byddwn yn defnyddio’r adroddiad wrth ddatblygu’n cwricwlwm newydd. Cyhoeddwyd ein cynllun cynhwysiant ariannol ym mis Rhagfyr, sy’n cynnwys camau gweithredu a ffyrdd o fesur llwyddiant er mwyn cryfhau addysg ariannol a chynhwysiant ariannol ar draws Cymru.