<p>Plant ag Awtistiaeth</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 8 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 1:34, 8 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r Gweinidog am y cwestiwn hwnnw a hoffwn ei ganmol am ei waith ar y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru), y gwn y bydd pawb ohonom yn gobeithio ei weld yn arwain at ganlyniadau a phrofiadau gwell i blant ag awtistiaeth ar eu taith ysgol. Gwn ei fod yn rhannu fy synnwyr o flaenoriaeth ynglŷn â sicrhau bod yr amgylchedd ffisegol mewn ysgolion hefyd yn addas ar gyfer plant ag awtistiaeth. Datblygodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru raglen, Dysgu gydag Awtistiaeth, sy’n pennu meini prawf ar gyfer yr ystad ysgolion i’w gwneud yn fwy hygyrch i blant ag awtistiaeth. I ba raddau y mae’r canllawiau’n cael eu dilyn gan ysgolion yn gyffredinol ac i’r graddau nad ydynt yn cael eu dilyn, a oes unrhyw beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i fynnu hynny?