Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 8 Chwefror 2017.
Mae cymorth ar gyfer STEM mewn ysgolion yn flaenoriaeth allweddol ac rydym yn buddsoddi mewn adeiladu capasiti ar gyfer pynciau gwyddoniaeth. Bydd ein diwygiadau addysg yn sicrhau newidiadau wedi’u harwain gan addysgwyr ac yn seiliedig ar dystiolaeth i’r cwricwlwm STEM, gyda rhwydweithiau rhagoriaeth i gefnogi ein gweithlu addysgu yn y dyfodol.