<p>Her Ysgolion Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 8 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 2:15, 8 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Parhaodd y London Challenge llwyddiannus iawn, a oedd yn amlwg wedi’i ysbrydoli gan ein Her Ysgolion Cymru, am wyth mlynedd lawn. Mae ein un ni yn cael ei dirwyn i ben ar ôl tair blynedd. Mae rhai o gyflawniadau Her Ysgolion Cymru wedi bod yn wirioneddol ragorol: mewn ysgolion uwchradd, ymhlith y rhai sydd ar brydau ysgol am ddim, bu cynnydd o 65 y cant yn y cyrhaeddiad mewn mathemateg a Chymraeg neu Saesneg i’r lefel sy’n ofynnol. Gwn fod yr Athro Ainscow, hyrwyddwr Her Ysgolion Cymru, wedi dweud bod yna ganlyniadau syfrdanol wedi bod. Tybed a ydym yn rhoi’r gorau iddi’n rhy fuan, nid yn unig o ran cael gwelliant cyflym ond gwelliant cynaliadwy hefyd. Sut yr awn ati i gynnal y gwelliant gwych hwn?