5. 4. Dadl ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 8 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:56, 8 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Lywydd. Rwy’n falch o gael cyfle i nodi eto yr hyn yr ydym eisoes yn ei wneud i wella lefelau goroesi yn sgil trawiad ar y galon y tu allan i’r ysbyty, sy’n cynnwys llawer o’r agweddau yng nghynnig Bil Aelod preifat Suzy Davies. Fodd bynnag, er fy mod yn cefnogi uchelgais y cynnig mewn egwyddor, ni allaf gefnogi’r cynnig gan nad wyf yn credu mai gosod dyletswydd statudol yw’r dull cywir i’w fabwysiadu ar hyn o bryd ar gyfer cyflawni gwelliannau ledled Cymru. Yn benodol, nid yw’r effaith ar y cwricwlwm ysgol yn un y gall y Llywodraeth ei chefnogi, a gobeithiaf egluro hynny’n eithaf manwl a defnyddiol.

Nodais yn fy natganiad ysgrifenedig ym mis Rhagfyr y gwaith ardderchog a wnaed ar draws yr ysgolion fis Hydref diwethaf, pan hyfforddwyd oddeutu 17,000 mewn amrywiaeth o sgiliau achub bywyd. Gall dull o’r fath weithio’n dda yn ein system ysgol gan ddefnyddio platfform presennol addysg bersonol a chymdeithasol. Ond wrth edrych ymhellach i’r dyfodol tuag at yr adeg pan fydd gennym gwricwlwm newydd yn dilyn proses Donaldson, mae’r dystiolaeth orau wedi dangos i ni fod defnyddio deddfwriaeth yn y ffordd y mae’r cynnig yn ein hannog i wneud wedi arwain at system wedi’i gorlwytho a rhy gymhleth. Ni ddylem ddiystyru’r ddadl honno yn syth. Roedd Donaldson yn glir iawn ynglŷn â hyn. Rydym yn awyddus i ddefnyddio deddfwriaeth yn gynnil, ac rwy’n sicr yn deall y bwriad da, fod y cynnig yn ceisio ychwanegu sgiliau achub bywyd fel rhan orfodol o’r cwricwlwm. Ar hyn, nid wyf yn cytuno â barn Suzy Davies na fyddai hyn yn tanseilio ein dull o weithredu sy’n deillio o adolygiad Donaldson. Rwy’n meddwl o ddifrif na all y rhai ohonom sy’n cefnogi’r adolygiad sylweddol hwn a’r posibilrwydd o gwricwlwm cydlynol dorri ar draws dull Donaldson wedyn drwy wneud cynigion unigol ar gyfer ychwanegiadau gorfodol i’r cwricwlwm newydd cyn iddo gael ei gwblhau a’i roi ar waith.

Nawr, mae gwaith eisoes wedi dechrau ar ddatblygu cynllun trawiad ar y galon y tu allan i’r ysbyty a fydd yn edrych ar ffyrdd o wella CPR a mynediad at ddiffibrilwyr—themâu cyffredin yn y ddadl heddiw. Rydym eisoes yn dechrau gwneud cynnydd yng Nghymru, yn enwedig mewn perthynas â mynediad at ddiffibrilwyr drwy’r gofrestr, gyda thros 2,000 wedi’u cofrestru ers i mi lansio ‘Byddwch yn arwr diffib’. Dechreuodd yr ymgyrch honno ym mis Chwefror 2015. Dylem hefyd fanteisio i’r eithaf ar y tebygrwydd rhwng y gwasanaethau brys a’u hymrwymiad ar y cyd i gadw pobl a chymunedau’n ddiogel. Mae diffibriliwr ar bron bob injan dân bellach, ac mae diffoddwyr tân wedi cael eu hyfforddi mewn sgiliau achub bywyd. Rwyf wedi cytuno gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar gyfres o flaenoriaethau er mwyn helpu i ganolbwyntio cefnogaeth y gwasanaeth tân ac achub i’r GIG. Mae’r blaenoriaethau y byddwn yn gweithio i’w cyflawni yn 2017-18 yn cynnwys cymorth ar gyfer ymateb meddygol brys.

Fodd bynnag, mae’n werth nodi, yng Nghymru, yn dilyn y newidiadau a wnaethom i’n model ymateb ambiwlansys, fod amser cyfartalog ymateb ambiwlans i ataliad y galon yng Nghymru bellach rhwng pedair a phum munud. Mae hwnnw’n welliant sylweddol gan ein bod wedi ailffocysu ein gallu i gael pobl at y galwadau lle y ceir perygl gwirioneddol i fywyd. Nawr, er mwyn i’r cynllun ataliad ar y galon y tu allan i’r ysbyty allu gwreiddio, rwy’n meddwl bod angen i ni adeiladu ar y momentwm sydd gennym eisoes cyn gwneud penderfyniad ynglŷn â chyflwyno gofyniad gorfodol. Mae’r cynllun yn cael ei ddatblygu gyda phartneriaid ar draws y teulu GIG, y gwasanaethau brys a’r trydydd sector. Fel yr Aelodau eraill, hefyd, rwyf am gydnabod a chroesawu gwaith yr ymgyrch yn y trydydd sector, gydag ystod eang o wirfoddolwyr a’r hyfforddiant a ddarperir ganddynt. Gwn fod pob Aelod yn cael cyfle iddynt hwy a’u staff gael hyfforddiant cymorth cyntaf gan nifer o wahanol sefydliadau, ac rwy’n cydnabod y gwaith y maent eisoes yn ei wneud. Maent yn sicr yn rhan o’r broses o gynhyrchu ein cynllun newydd a sicrhau ei fod yn cael ei wireddu. Rydym yn cydnabod bod sgiliau achub bywyd a gweithdrefnau cymorth mewn argyfwng yn amlwg yn hynod o bwysig, ac mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwaith y sefydliadau hynny yn codi ymwybyddiaeth a helpu pobl i gael y sgiliau hynny.

Yr wythnos diwethaf, fel y soniodd yr Aelodau, lansiodd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru eu hymgyrch diffibrilwyr ddiweddaraf, gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o’r hyn yw diffibriliwr, ble i ddod o hyd i’r un agosaf, a pha gymorth sydd ar gael i ddod o hyd i un. Rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau’n manteisio ar y cyfle i gefnogi’r ymgyrch honno ac yn arbennig, i wrando ar eiriau Dai Lloyd fod diffibrilwyr modern yn eich siarad drwy’r hyn sydd angen i chi ei wneud ac os oes rhywun yn cael ataliad ar y galon—rydych yn hollol iawn—dim ond helpu y gallwch ei wneud. Rwy’n gobeithio bod honno’n neges y bydd pobl yn ei chlywed ac o ddifrif yn ei chylch.

Rwy’n derbyn ei bod yn hollbwysig fod poblogaeth Cymru yn cael cyfle—pob cyfle—i oroesi trawiad ar y galon a bod gwybodaeth ac adnoddau yn cael eu darparu ar eu cyfer, pethau fel diffibrilwyr, a fydd yn hwyluso’r ymdrechion a wneir i achub bywydau. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda sefydliadau ledled Cymru i gyflawni hyn, ond ar hyn o bryd, nid wyf yn argyhoeddedig fod gofyn cael deddfwriaeth. Nawr, pe bai hon yn ddadl Cyfnod 1, yna buasai’r Llywodraeth yn gwrthwynebu’r cynnig. Fodd bynnag, bydd y Llywodraeth yn ymatal heddiw a bydd pleidlais rydd gan aelodau’r meinciau cefn yn fy mhlaid. Ond drwy ymatal, mae’r Llywodraeth yn dymuno dangos ei chefnogaeth i barhau i wella sgiliau achub bywyd a’n safbwynt fod deddfwriaeth yn opsiwn posibl yn y dyfodol lle y mae’n amlwg naill ai mai dyna’r ffordd orau ymlaen neu mai dyna’r unig ffordd i wneud cynnydd pellach. Ond byddwn yn parhau i wneud cynnydd ar ein cynllun ataliad ar y galon y tu allan i’r ysbyty. Rydym am weld beth a ddaw o hynny ac yna byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys Aelodau yn y lle hwn, o ba blaid bynnag, i geisio achub bywydau ac adolygu’r hyn y dylai ein camau nesaf fod wrth i ni symud ymlaen i geisio gwella bywydau ac wrth gwrs, achub bywydau.