Part of the debate – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 8 Chwefror 2017.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, ac rwy’n ddiolchgar i’r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at yr ymchwiliad ac at y ddadl y prynhawn yma. Mewn sawl ffordd, Ddirprwy Lywydd, rwy’n teimlo bod yr ymchwiliad yn enghraifft wych o’r Cynulliad a’r Llywodraeth: y tensiwn cywir sydd angen ei gael rhwng y ddau sefydliad, fel y cyfeiriwyd ato—y gwrthdaro achlysurol rhyngom i gyd—ond hefyd y pwyllgor yn gosod materion o bwysigrwydd cenedlaethol clir yn gadarn iawn ar agenda’r Llywodraeth, a’r pwyllgor yn adrodd mewn modd cadarn a gorfodi’r Llywodraeth a’r Gweinidog i ystyried y dull a roddwyd ar waith. Ac fe ddywedaf fod ymateb y pwyllgor hwn—mae’r Aelodau wedi bod yn eithaf caredig ar y cyfan ynglŷn ag ymateb y Llywodraeth, ond mewn gwirionedd, nid yr hyn a ysgrifennwyd ac a gyhoeddwyd yn y dogfennau a welwyd ac a drafodwyd gennym heddiw oedd yr ymateb; mewn sawl ffordd yr ymateb oedd y ffaith ein bod wedi ein gorfodi i gael dadl mewn gwirionedd na fyddai wedi digwydd yn ôl pob tebyg heb ymchwiliad y pwyllgor, heb adroddiad y pwyllgor, heb y dystiolaeth a roddwyd i’r pwyllgor a heb y casgliadau a wnaeth y pwyllgor ar sail y dystiolaeth honno. Ac mae gorfodi’r Llywodraeth mewn gwirionedd i edrych yn ofalus ar ei blaenoriaethau, i edrych yn fanwl ar ei rhaglen, y ffordd y ceisiwn symud ymlaen, wedi sicrhau bod y geiriau a ddisgrifiwyd gan yr Aelodau y prynhawn yma ac a ddefnyddiwyd gan dystion i’r ymchwiliad yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf wedi cael effaith ar newid polisi mewn gwirionedd ac ar newid dull a chyfeiriad y Llywodraeth. Rwy’n credu ei bod yn iawn i mi ddechrau fy nghyfraniad y prynhawn yma drwy gydnabod hynny, a chydnabod y gwaith y mae’r pwyllgor wedi ei wneud dros y misoedd diwethaf.
Rwy’n credu bod yna gytundeb cyffredinol fod gan waith ieuenctid o ansawdd uchel rôl hollbwysig i’w chwarae yn cynorthwyo llawer o bobl i gyflawni eu potensial llawn, ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl ifanc, boed hynny drwy brofiadau gwahanol sy’n cael eu hagor i bobl neu’r gefnogaeth y mae’n ei chynnig. Mae’n sail i lawer o’n blaenoriaethau, o addysg, iechyd i adfywio cymunedol. Fe wrthodaf gynnig caredig Dawn i drafod Cymunedau yn Gyntaf y prynhawn yma, ond rydym yn gwbl glir ein meddwl bod gwaith adfywio cymunedol a datblygu cymunedol yn cael ei gynorthwyo a’i gefnogi gan yr agenda gwaith ieuenctid ehangach. Rydym yn cydnabod hynny, ac rydym yn cydnabod y pwyntiau a wnaed.
Rwy’n falch o allu derbyn neu dderbyn mewn egwyddor pob un o’r 10 argymhelliad. Deuthum at adroddiad y pwyllgor mewn modd a geisiai edrych ar sut y gallwn alluogi’r pethau hyn i ddigwydd, nid chwilio am resymau i beidio â derbyn argymhellion, ond chwilio am resymau a ffyrdd o dderbyn yr argymhellion hynny. Carwn ddweud wrth Hefin fy mod yn meddwl ei bod yn deg dweud nad yw hynny wedi bod yn wir bob tro dros y blynyddoedd, ac rwy’n gobeithio ei fod wedi mwynhau ei ymchwiliad cyntaf, fel aelod o’r pwyllgor yma. Ac rwy’n sicr yn gobeithio ei fod yn teimlo bod y profiad o graffu ar y Llywodraeth yn y ffordd hon yn un a oedd yn bleserus a hefyd yn allweddol i newid cyfeiriad polisi.
A gaf fi ymateb i rai o’r pryderon a fynegwyd ynglŷn â’r angen am gyfeiriad strategol cliriach? Gwnaeth cyfraniad Darren Millar argraff fawr arnaf o ran disgrifio’r ffordd y mae angen i’r Llywodraeth sefydlu cyfeiriad teithio llawer cliriach. Credaf fod hynny’n glir yn ystod y sesiwn dystiolaeth a gawsom gyda’n gilydd, ac rwy’n meddwl fy mod eisoes wedi ymrwymo i adnewyddu ‘Ymestyn Hawliau’, y canllawiau statudol sy’n sail i ddarparu a chyflwyno gwasanaethau cymorth ieuenctid yng Nghymru. Bydd cynllun gweithredu manwl yn cael ei ddatblygu a’i gyhoeddi erbyn diwedd mis Mawrth 2017. Mae fy swyddogion yn gweithio gydag is-grŵp y grŵp cyfeirio gwaith ieuenctid i ddatblygu cynllun ar gyfer adnewyddu ‘Ymestyn Hawliau’ a byddant yn cyfarfod am y tro cyntaf ymhen pythefnos. Bydd y gwaith hwn yn croesi nifer o bortffolios gweinidogol gwahanol, ac mae hefyd yn cynnwys gwasanaethau cymorth ieuenctid yn fwy eang ac nid gwaith ieuenctid yn unig.
Hefyd, bydd angen i ni adolygu’r strategaeth genedlaethol gyfredol ar gyfer gwaith ieuenctid er mwyn llywio’r gwaith o adnewyddu’r canllawiau statudol. Mae fy swyddogion eisoes wedi dechrau trafodaethau gydag aelodau o’r grŵp cyfeirio gwaith ieuenctid ar sut y byddwn yn datblygu’r gwaith hwn. Carwn wahodd y pwyllgor i barhau â’i waith ac i barhau â’i waith craffu ar y diweddariad hwn, ac i chwarae rhan a rôl wrth wneud hynny, ac mae hynny’n rhywbeth y buaswn yn ei groesawu’n fawr iawn pe bai aelodau’r pwyllgor yn gwneud hynny.
Mae nifer o’r Aelodau wedi trafod y pryderon a fynegwyd ynglŷn â diffyg ymgysylltiad â’r sector a phobl ifanc. Rwy’n cydnabod y disgrifiad a roddodd Julie Morgan yn ei chyfraniad. Rwy’n cydnabod yn fawr iawn y pwyntiau a wnaethoch, Julie, a chredaf eich bod yn hollol gywir i wneud y pwyntiau hynny. Cyfarfûm â’r grŵp cyfeirio gwaith ieuenctid ar 8 Rhagfyr, a bydd fy swyddogion a minnau’n parhau i weithio gyda’r grŵp i lunio dyfodol y gwaith o ddarparu gwaith ieuenctid yng Nghymru. Rwy’n gobeithio y bydd cyfranogiad pobl ifanc bob amser yn parhau’n ganolog i’r gwaith a wnawn, a byddwn yn sicr yn ceisio defnyddio arbenigedd rhanddeiliaid, gan gynnwys Young Cymru, er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cyrraedd pobl nad ydynt bob amser yn rhan o’r prosesau hyn. Byddaf yn sicr yn edrych ar sut y gallwn wneud hynny ac os oes gan y pwyllgor gyfraniadau pellach i’w gwneud ynglŷn â sut y byddem yn gwneud hynny, yna byddwn yn falch iawn o glywed y safbwyntiau hynny.
Rwy’n deall yr hyn a ddywedwyd am fodel cenedlaethol, a gwn fod Llyr Gruffydd wedi siarad yn helaeth ar hyn, o ran yr angen i gael model cenedlaethol a’r ffordd yr ydym yn bwrw ymlaen â hynny. Rwyf am roi ystyriaeth bellach i hyn, ac nid wyf am achub y blaen ar yr ystyriaeth honno. Ond gadewch i mi ddweud hyn: rwy’n cydnabod y sylwadau a wnaed. Rwy’n meddwl bod Darren wedi gwneud sylw yn y ddadl heddiw am y Llywodraeth yn rhuthro ymlaen, yn gwneud penderfyniadau a gweithredu penderfyniadau tra bo’r pwyllgor yn cynnal ei ymchwiliad, ac rwy’n meddwl bod Llyr wedi gwneud y pwynt hwnnw ar adegau eraill hefyd. Mae yna adegau pan fyddaf yn teimlo, fel Gweinidog, na allaf eistedd yn ôl ac aros, fod yn rhaid i mi wneud penderfyniadau a symud ymlaen, a cheir achlysuron eraill—ac rydym wedi trafod y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg y prynhawn yma—pan fyddaf yn teimlo ei bod yn bwysicach i mi eistedd ac aros nes fy mod mewn sefyllfa i wneud penderfyniad rhesymedig ar y materion hyn. Dyma enghraifft arall ar hyn o bryd lle rwy’n dymuno mabwysiadu ymagwedd fwy rhesymedig ac un lle y carwn roi mwy o amser i wrando ar yr hyn sy’n cael ei ddweud ac i ddeall beth y mae’r diweddariad o ‘Ymestyn Hawliau’ a’r adolygiad o’r strategaeth genedlaethol yn ei ddweud wrthym cyn gwneud penderfyniad ar y mater hwn. Rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau a’r pwyllgor yn deall y rhesymeg wrth wraidd hynny.
Ond rwy’n gwrando ar, ac yn clywed y pryderon a fynegwyd gan yr holl Aelodau ynglŷn â chau darpariaeth mynediad agored. Rhoddodd Julie Morgan enghraifft i ni yn ei hetholaeth ei hun, ond rydym i gyd yn gyfarwydd â hynny. Mae’n anodd ar awdurdodau lleol—rydym yn gwybod hynny, a rhoddodd Dawn Bowden enghreifftiau o hynny, ac rydym i gyd yn gyfarwydd â’r penderfyniadau anodd sy’n wynebu awdurdodau lleol.
Mae ganddo rôl strategol i’w chwarae yn cynnig mecanwaith i adnabod pobl ifanc a allai fod yn agored i niwed a darparu cymorth ymyrraeth gynnar. Mae’n amlwg hefyd fod y dirwedd gwaith ieuenctid yn newid ac mae darpariaeth mynediad agored hefyd yn newid. Rwyf eisiau gallu gweithio gyda llywodraeth leol er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cael y math o ddarpariaeth y dymunwn ei gweld. Fe’i disgrifiwyd gan Llyr, rwy’n meddwl, fel rhywbeth sy’n rhy optimistaidd, o bosibl—’uchelgeisiol’ oedd eich gair. Uchelgeisiol iawn, ie. Gobeithio y gallwn gyflawni hynny, ac yn sicr, rydym yn awyddus i ystyried a allai asesiadau digonolrwydd fod yn gyfrwng addas i gynorthwyo awdurdodau lleol i asesu anghenion eu poblogaethau lleol ac i allu diwallu’r anghenion hynny wedyn.
Bydd yna nifer o wahanol faterion yn codi ynglŷn â’r cyllid a’r grant cynnal refeniw. Rydym yn gwybod bod y grant cynnal refeniw yn ffrwd arian heb ei neilltuo, a phenderfyniad i awdurdodau lleol felly yw sut y caiff y cyllid hwn ei ddefnyddio. Mae Hefin wedi trafod hynny ei hun ac fel rhywun sydd wedi gwasanaethu mewn awdurdod lleol, mae’n gwybod yn well na’r rhan fwyaf beth yw’r anawsterau y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Rwy’n gobeithio y gallwn gynnal adolygiad o’n holl ffrydiau ariannu gwaith ieuenctid, gan gynnwys y grant cynnal refeniw, er mwyn nodi’r effaith wirioneddol ac i gefnogi syniadau yn y dyfodol ar gyfer cefnogi gwaith ieuenctid yng Nghymru. Gallaf weld bod amser yn brin, Ddirprwy Lywydd, ac nid wyf am brofi eich amynedd ymhellach. Yr hyn yr hoffwn ei ddweud i gloi yw bod hwn yn adroddiad sydd wedi newid y ffordd y meddyliwn. Mae’n ein gorfodi i feddwl ddwywaith, i feddwl deirgwaith am yr hyn a wnawn. Byddwn yn parhau i weithio gyda’r pwyllgor i symud y materion hyn yn eu blaenau, ac rwy’n gobeithio y byddaf mewn sefyllfa i ddod i’r lle hwn i wneud datganiad llafar ar y materion hyn yn y dyfodol agos. Diolch.