Part of the debate – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 8 Chwefror 2017.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am gynnig y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies yn ffurfiol.
Rwy’n falch iawn o arwain y ddadl hon ar ddyfodol y sector addysg bellach yng Nghymru, ar ran y Ceidwadwyr Cymreig. Gwyddom fod addysg yn chwarae rhan hanfodol yn ein heconomi genedlaethol, yn sail i sicrhau llwyddiant, iechyd a boddhad personol, ac yn cyfrannu at ganlyniadau economaidd a chymdeithasol ar gyfer ein cenedl. Mae ein darparwyr addysg bellach a galwedigaethol wedi bod, ac yn parhau i fod, ym marn y blaid hon, yn rhan hanfodol iawn o’r tirlun cenedlaethol. Maent yn gwneud cyfraniad enfawr i newid bywydau unigolion a chymunedau yng Nghymru, yn enwedig rhai o’n cymunedau mwyaf difreintiedig. Dyma’r bont hanfodol sy’n cysylltu ysgol a gwaith a/neu addysg uwch, gan gynorthwyo pobl i ennill y cymwysterau a’r sgiliau galwedigaethol neu academaidd sydd eu hangen arnynt i gamu ymlaen i gyflogaeth neu i addysg bellach.
Ond rwy’n credu bod yna dystiolaeth gref i ddangos nad ydynt wedi cael digon o werthfawrogiad nac adnoddau gan Lywodraethau Cymru olynol, ac rydym yn credu bod yn rhaid i’r esgeulustod hwn newid. Ond cyn i mi ddechrau ar y daith a fydd yn mynd â ni o gwmpas rhai o agweddau sylfaenol ar y ddadl hon, rwyf am ymdrin yn fyr â’r gwelliannau a gyflwynwyd.
Nawr, rhaid i mi ddweud, rwy’n credu ei bod yn drueni mawr fod y Llywodraeth wedi penderfynu ymateb i’n dadl heddiw drwy fabwysiadu ymagwedd mor negyddol o’r cychwyn cyntaf. Rwy’n meddwl bod yna agweddau ar ei gwelliant y gallem fod wedi cytuno arnynt, yn enwedig ar ôl y datganiad am adolygiad yr Athro Hazelkorn yr wythnos diwethaf, sydd wedi denu rhywfaint o gefnogaeth drawsbleidiol wrth gwrs. Ond rwy’n credu bod ei gwelliant ‘dileu popeth’ anadeiladol yn dangos yr ymagwedd gibddall iawn sydd wedi bod gan y Llywodraeth dan arweiniad Llafur dros y 18 mlynedd diwethaf gyda’i pholisi addysg yng Nghymru. Wrth gwrs, rydym wedi gweld y polisi addysg hwnnw’n peri i Gymru golli ei ffordd a cholli tir o gymharu â’n cystadleuwyr rhyngwladol, a chredaf fod hynny’n siomedig iawn.
Yr hyn sy’n ei wneud hyd yn oed yn fwy siomedig yw bod gennym Ysgrifennydd y Cabinet newydd a Gweinidog newydd, ac roeddwn yn awyddus i roi mantais yr amheuaeth iddynt. Roeddwn yn gobeithio am fath gwahanol o ymagwedd gan y ddeuawd newydd, os mynnwch, sydd wrth y llyw gydag addysg. Ond yn anffodus, mae’n edrych yn debyg y byddwch yn sefyll ar ysgwyddau eich rhagflaenwyr ac yn parhau i roi mwy o’r un peth ni.
O ran gwelliannau Plaid Cymru, gallwn yn sicr dderbyn gwelliant 2. Ond o ran gwelliant 3, ni allwn dderbyn gwelliant a fydd yn cyfyngu mewn unrhyw ffordd ar y dewis i ddysgwyr. Fel y byddech yn ei ddisgwyl, rydym ni, y Ceidwadwyr Cymreig, yn credu bod cystadleuaeth yn beth da yn ein sector addysg, a bod rhoi dewisiadau i ddysgwyr yn gallu helpu i godi safonau mewn gwirionedd, felly yn sicr ni fyddwn yn cefnogi unrhyw beth sy’n ceisio cyfyngu ar hynny.
Ddirprwy Lywydd, mae’n iawn ein bod yn cydnabod yn briodol y cyfraniad hanfodol y mae addysg bellach a sgiliau galwedigaethol yn eu gwneud i Gymru. Rwy’n meddwl bod tuedd wedi bod ers amser hir i ni wleidyddion ganolbwyntio’n bennaf ar addysg uwch fel sector, wrth drafod addysg ôl-16, a chyllido addysg uwch a’i chohort myfyrwyr. Ond mae ein colegau hefyd yn ddarparwyr addysg pwysig yma yng Nghymru, ac maent yn helpu i gynhyrchu rhai o’r canlyniadau gorau i ddysgwyr. Hwy yw darparwyr pennaf addysg alwedigaethol ac addysg dechnegol a gyllidir yng Nghymru, gan ddarparu tua 85 y cant o gyfanswm y ddarpariaeth. Yn sicr nid ydynt wedi cilio rhag dod o hyd i atebion cadarnhaol i rai o’r heriau allweddol yn y blynyddoedd diwethaf.
Mae Cymru wedi mynd drwy newid sylweddol i’w rhwydwaith o golegau, ac rydym wedi gweld nifer y colegau addysg bellach yn haneru dros y 10 mlynedd diwethaf. Erbyn hyn mae gennym sefydliadau mwy o faint, gyda mas critigol gwahanol, ac maent yn profi eu bod yn angorau go iawn i’r ddarpariaeth sgiliau yn economïau rhanbarthol Cymru. Un o bwyntiau gwerthu unigryw ein rhwydwaith colegau yw eu bod mor agos at y bobl y maent yn eu gwasanaethu, yn ddysgwyr a busnesau. Maent yn rhan annatod o’u cymunedau, gan wasanaethu dysgwyr o gymysgedd amrywiol o gefndiroedd cymdeithasol-economaidd, diwylliannol ac ieithyddol. Eto ni ddylem gamgymryd mai darparu sgiliau a hyfforddiant i fusnesau bach a chanolig yn unig a wnânt. Mae colegau yn agos at gyflogwyr o bob maint; maent yn rhyngweithio gyda 10,000 o gyflogwyr ledled Cymru fel mater o drefn, ac mae’r rhain yn gwmnïau o bob math a maint, o fusnesau a mentrau bach i gwmnïau mawr megis Airbus, General Electric, EE a British Airways.
Mae’r sector addysg bellach yn parhau i gyflawni canlyniadau cadarnhaol yn wyneb hinsawdd ariannol heriol. Mae Llywodraeth Cymru wedi torri £24 miliwn oddi ar y cyllid grant refeniw ar gyfer y sector addysg bellach rhwng 2011 a 2016-17, gostyngiad o 7 y cant mewn termau arian parod a 13 y cant o ostyngiad mewn termau real. Er bod cyllid ar gyfer darpariaeth amser llawn wedi cynyddu ychydig bach, cafwyd 71 y cant o ostyngiad yn y cyllid ar gyfer cyrsiau rhan-amser. Mae hyn yn adlewyrchu penderfyniad Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, i flaenoriaethu ei waith statudol ac i ganolbwyntio ar y ddarpariaeth ar gyfer rhai 16 i 19 oed. Ond credwn fod hwnnw’n bwyslais anghywir. Ceir perygl gwirioneddol nad ydym yn caniatáu ail gyfle i bobl astudio, neu i uwchsgilio drwy ddychwelyd at addysg, ac rwy’n meddwl y bydd hynny’n cael effaith ddinistriol yn gymdeithasol ac yn economaidd yn y dyfodol oni bai ein bod yn gwrthdroi’r duedd honno.
Mae’r sector addysg bellach yn chwarae rhan enfawr yn pontio’r bwlch sgiliau a chyrhaeddiad ar gyfer ein pobl ifanc sydd wedi gadael y system orfodol gydag ond ychydig gymwysterau, os o gwbl, ac mae llawer o golegau bellach yn treulio llawer o amser ac adnoddau ychwanegol yn helpu dysgwyr i ailsefyll eu harholiadau TGAU mewn Saesneg a mathemateg oherwydd y methiannau yn ein system ysgolion. Eto i gyd, o ran cydnabyddiaeth, mae’n ymddangos i mi, ar y gorau, fod dysgu ail gyfle wedi dod yn ddysgu ail orau yn llygaid y Llywodraeth hon, ac nid ydym yn ystyried hynny’n dderbyniol o gwbl. Yn wir, mae’n awgrymu bod rhywfaint o ragfarn ar sail oed ar waith o ran sicrhau mynediad at addysg bellach.
Felly, beth y gallwn ei wneud i helpu? Wel, yn sicr mae arnom angen fframwaith ariannol priodol. Gwyddom fod rhoi cyfle i golegau gynllunio dros gylch ariannu tair blynedd wedi bod o fudd mawr iddynt yn y gorffennol, ond am ba reswm bynnag, penderfynodd Llywodraeth Cymru wrthdroi’r cyllidebau treigl tair blynedd hynny sawl blwyddyn yn ôl, a bellach, mae colegau’n gorfod ymgodymu â chylchoedd cyllido syml o 12 mis. Mae hynny’n achosi problemau iddynt gyda’u gwaith cynllunio. Mae’n achosi problemau i ddysgwyr hefyd, gan na allant warantu erbyn blwyddyn 2 neu 3 y bydd modd cwblhau’r cyrsiau a ddechreuwyd ganddynt ym mlwyddyn 1 oherwydd y posibilrwydd y caiff y broses ei gwrthdroi. Felly, credaf fod angen i ni sicrhau bod yna gylchoedd ariannu tair blynedd.
Rydym yn gwybod, hefyd, fod rhywfaint o adnoddau ychwanegol ar gael y gellid eu gwario yn y sector addysg bellach yn deillio o ardoll prentisiaeth Llywodraeth y DU—£128 miliwn y flwyddyn, yn fras. Mae hynny’n llawer o arian, a gallai fynd yn bell i helpu colegau i ehangu eu darpariaeth a bod o gymorth gwirioneddol i drawsnewid economi Cymru.
O ran diogelwch y ddarpariaeth, rwy’n credu ei bod yn wirioneddol bwysig sicrhau bod parhad ariannol yno, a gwneud yn siŵr fod y cylchoedd ariannu tair blynedd ar gael i drawsnewid y cyfleoedd i golegau allu cynllunio a buddsoddi.
Nawr, pwynt olaf ein cynnig yw galwad ar y Llywodraeth i fuddsoddi cyfran sylweddol o’r arbedion y mae’n disgwyl eu gwneud o ganlyniad i newidiadau i gymorth i fyfyrwyr i’r rhai yn y sector addysg uwch, ac i fuddsoddi rhai o’r rheini yn ein sector addysg bellach. Nid ydym yn gofyn am fuddsoddi’r holl arian yn ein colegau; rydym yn dweud yn syml y gellid buddsoddi peth o’r arbedion hynny yn realistig er mwyn helpu ein colegau i wneud mwy. Gwyddom fod newidiadau i’r ddarpariaeth, toriadau yn y cymorth i ddysgwyr sy’n oedolion a’r galw cynyddol gan gyflogwyr am weithlu sgiliau uwch, yn golygu bod angen newid agwedd tuag at y cyllid i addysg uwch ac addysg bellach yn y dyfodol.
Fel y dywedais yn gynharach yn fy nghyfraniad, mae mater ffioedd dysgu myfyrwyr a threfniadau ariannu ein prifysgolion wedi mynnu llawer o sylw yn y blynyddoedd diwethaf. Ond mae gan addysg bellach ran yr un mor bwysig, os nad yn bwysicach, i’w chwarae yn darparu sgiliau ar gyfer ein heconomïau lleol. Mae colegau hefyd yn darparu addysg a hyfforddiant sgiliau lefel uchel, ac rwy’n credu bod y rhan bwysig y mae sefydliadau addysg bellach yn ei chwarae yn darparu’r sgiliau lefel 4 a lefel 5 a graddau sylfaen hynny wedi ei hamlygu yn adolygiad Llywodraeth Cymru o addysg uwch ac addysg bellach mewn adroddiad a gyflawnwyd ym mis Mehefin 2015. Roedd hwn yn dangos bod y patrwm o weithgarwch addysg uwch sy’n digwydd yn ein colegau ledled Cymru yn amrywiol, ac nid yn unig yn amrywiol, ond yn tyfu hefyd.
Rwy’n credu hefyd fod angen i ni ehangu argaeledd cyrsiau Cymraeg yn ein colegau addysg bellach. Yn anffodus, er bod gennym ddarpariaeth dda mewn addysg gynradd ac uwchradd, o ran gwneud addysg ôl-16 yn ein colegau, ychydig iawn o gymorth mewn unrhyw ddull na modd a geir o gwbl. Rwy’n credu mai’r hyn y byddai’n gywir i ni fuddsoddi rhai o’r arbedion a geir o ganlyniad i Diamond ynddynt yw’r ddau beth hwnnw—y buddsoddiad mewn sgiliau lefel uwch a’r buddsoddiad mewn ehangu addysg a’r cynnig cyfrwng Cymraeg yn ein colegau addysg bellach. Gadewch i ni beidio ag anghofio: rydym yn sôn am werth £0.5 biliwn o arbedion, o bosibl, dros gyfnod o bum mlynedd yn sgil yr arbedion a nodwyd gan Diamond, ac yn wir, rhai o’r newidiadau i’r trothwyon cyflog uchaf a gyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Felly, buasai buddsoddi tamaid bach o hynny yn ein colegau yn mynd yn bell i’w helpu i gyflawni mwy i’n heconomi ac i bobl Cymru.
Felly, rwy’n gobeithio y byddwch yn adeiladol yn y ddadl y prynhawn yma, ac y byddwn yn gweld ymateb cadarnhaol i rai o’r awgrymiadau, er eich bod wedi cynnwys y gwelliant ‘dileu popeth’, gan ein bod yn credu y buasai hyn yn helpu Cymru i gael y math o system addysg yn ein sector addysg bellach yr ydym i gyd yn awyddus i’w gweld. Diolch.