8. 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Datblygu Economaidd

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:59 pm ar 8 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 4:59, 8 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Ar ôl y refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd a’r ansicrwydd anochel sy’n gysylltiedig â’r canlyniad, rwy’n credu bod y strategaeth ddiwydiannol a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth y DU yn cynnig diogelwch a sicrwydd i fusnesau allu cynllunio ar gyfer eu dyfodol, yn ogystal â sylfaen gadarn ar gyfer gwella safonau byw a buddsoddi yn llwyddiant pob rhan o’r DU yn y dyfodol. Mae’n amlinellu buddsoddiad mawr ar gyfer seilwaith, buddsoddiad newydd mewn gwyddoniaeth, mewn ymchwil a datblygu, a’i nod yw sicrhau bod mentrau sy’n tyfu yn cael y sgiliau a’r cymorth i allu creu swyddi a ffyniant newydd.

O edrych ar Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru—a dylwn ddweud bod llawer y gallaf gytuno ag ef ynddo, ond ychydig iawn o gefnogaeth a geir i fusnesau a fawr ddim i hyrwyddo prosiectau seilwaith pwysig. Mae’n rhaid i ni aros, wrth gwrs, tan y gwanwyn i weld beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynllunio ar gyfer strategaeth economaidd Cymru. Pan gyhoeddir y cynllun hwnnw, rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau bod ei strategaeth yn cydweddu â strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU a’i bod yr un mor flaengar ac uchelgeisiol o ran yr heriau economaidd sy’n wynebu Cymru yn y dyfodol. Mae strategaeth ddiwydiannol y DU yn rhoi pwyslais ar fynd i’r afael â’r anghyfartaledd rhanbarthol o ran ffyniant economaidd a’r prinder sgiliau sy’n bodoli yn y DU ac yng Nghymru, a fydd, o’i wneud yn llwyddiannus, yn cynyddu cynhyrchiant a symudedd cymdeithasol.

Dylid nodi hefyd y bydd y strategaeth ddiwydiannol yn cefnogi economi gogledd Cymru, gyda bargen dwf gogledd Cymru, cynlluniau trafnidiaeth mawr sy’n cael eu hadeiladu, gan gynnwys trydydd croesiad dros y Fenai, gwaith ar wella’r A55 a chyfnewidfa’r A494, yn ogystal â thrydaneiddio rheilffordd arfordir gogledd Cymru. Un o’r ffyrdd y mae’r strategaeth ddiwydiannol yn gwneud hyn yw cydnabod ymchwil a datblygu fel rhan hanfodol o’r economi yn y dyfodol. Felly, rwy’n meddwl ei fod yn ddatblygiad i’w groesawu bod Llywodraeth y DU yn canolbwyntio ar wneud gogledd Lloegr yn rhanbarth technoleg. Rwy’n credu y bydd hyn yn cynnig cyfleoedd sylweddol i ogledd Cymru gysylltu â Phwerdy Gogledd Lloegr yn ehangach. Rwyf am i Lywodraeth Cymru gael yr awydd i ysgogi ymchwil a datblygu er mwyn sicrhau bod gan ogledd Cymru yr offer i allu manteisio ar y cyfleoedd hyn. Yn hanesyddol, mae Llywodraeth Cymru wedi dewis peidio â buddsoddi’n drwm mewn ymchwil a datblygu. Mae’n parhau i beidio â gwneud hynny yng nghyllideb 2017-18, o ran arloesedd busnes a chyfleusterau ymchwil a datblygu. Nid yw’r gyllideb wedi newid o un flwyddyn i’r llall, ac wrth gwrs, mae hynny’n golygu gostyngiad yn y cyllid mewn termau real ar gyfer yr hyn y buaswn yn ei ddweud sy’n faes twf allweddol.

Nawr, mewn perthynas â chefnogi’r diwydiant dur, mae angen i ni sicrhau y gall y diwydiant fod yn fasnachol gynaliadwy mewn marchnad fyd-eang gystadleuol. Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn rhoi sylw i rai o ofynion allweddol y diwydiant, gan gynnwys iawndal—[Torri ar draws.] Mewn eiliad—i weithgynhyrchwyr ynni-ddwys, darparu hyblygrwydd o ran gweithredu rheoliadau allyriadau yr UE, ac mae hefyd wedi pwyso am weithredu yn erbyn dympio dur yn annheg. Ildiaf i David Rees.