Part of the debate – Senedd Cymru am 5:25 pm ar 8 Chwefror 2017.
Roeddech yn amlwg yn garedig iawn wrthyf yn fy nadl fer ar y ddinas-ranbarth yr wythnos diwethaf gan na wnaethoch leisio unrhyw un o’r pryderon hyn. Rwyf wedi gwrando ar yr hyn rydych newydd ei ddweud yn awr a’r hyn a ddywedoch yn eich cyfraniad cynharach, Adam. Ac yn amlwg mae gennych broblemau mawr—. Wel, rydych yn meddwl y tu allan i’r blwch mewn perthynas â’r ddinas-ranbarth. Rwy’n meddwl bod pawb arall ar hyn o bryd yn dweud, ‘Onid y dinas-ranbarthau, y bargeinion dinesig ledled Cymru yw’r pethau gorau a fu ers amser hir?’ Nid ydynt yn berffaith; rydych yn iawn i ddweud bod yna rannau eraill o Gymru y mae angen inni feddwl amdanynt hefyd. Ond carwn ddweud, a mynd yn ôl at eich sylwadau cynharach, pan fo gennych wactod, mae angen i chi ei lenwi â rhywbeth, ac rwy’n meddwl bod y bargeinion dinesig hyn o leiaf yn denu buddsoddiad sylweddol i mewn; rydym yn edrych ar £1.2 biliwn gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gefnogi’r fargen ddinesig yn ne-ddwyrain Cymru. Felly, rwy’n meddwl bod dweud yn syml nad yw hynny’n mynd i’r afael ag anghenion economi Cymru ac economi de Cymru yn anghywir. Credaf fod yn rhaid i chi gydnabod eu bod yn bwysig. Nid yw hynny’n dweud nad ydym yn cefnogi datblygu coridor Blaenau’r Cymoedd, ac nad ydym yn credu yn fy ardal i, yn sir Fynwy, mewn sicrhau bod yr economi wledig yno’n gallu sefyll ar ei thraed ei hun hefyd. Wrth gwrs ein bod eisiau hynny, ond ar yr un pryd, rhaid i ni gydnabod hefyd, yn y rhan hon o’r byd, ac i mi a’m cymdogion ymhlith Aelodau’r Cynulliad a Mohammad Asghar yn ne-ddwyrain Cymru, fod economi de-ddwyrain Cymru yn mynd i gael ei hybu gan fargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd, ac rwy’n meddwl y bydd ynysu ardaloedd fel fy un i rhag hynny’n anghywir. Felly, rwy’n clywed yr hyn a ddywedoch.
Roedd yn braf eich clywed yn sôn am y cynllun gofodol yn gynharach, gyda llaw. Fel y dywedodd Andrew R.T. Davies, mae wedi bod yn amser hir ers i’r gŵr â’r un enw ag ef sôn amdano yn y Siambr hon. Mae llawer o bethau da yn y cynllun gofodol, fel y nodwyd gennych, ac mae angen inni wneud yn siŵr fod y rheini’n cael eu hymgorffori mewn strategaeth. Ond yn gyntaf ac yn bennaf, i gloi, oherwydd gallaf weld bod y Llywydd yn dymuno i mi i ddirwyn i ben—yn gyntaf ac yn bennaf, gadewch i ni fwrw ymlaen â’r gwaith o ddatblygu strategaeth weithgynhyrchu gyflawn ar gyfer Cymru, strategaeth ddiwydiannol sy’n cyd-fynd â strategaeth y DU, ond ar yr un pryd, sy’n gwneud ei phethau ei hun—modelau ar ddarparu atebion Cymreig i broblemau Cymru.