8. 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Datblygu Economaidd

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:48 pm ar 8 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 5:48, 8 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Lywydd. A gaf fi ddechrau fy nghyfraniad heddiw drwy ddiolch i’r Ceidwadwyr am gyflwyno’r ddadl hon i’r Siambr mewn wythnos pan gefais y pleser eisoes o gyhoeddi mwy na 500 o swyddi newydd drwy ymyrraeth y Llywodraeth? Mae’r Papur Gwyrdd a ryddhawyd gan Lywodraeth y DU yn sicr yn ddiddorol. Mae’r Prif Weinidog ei hun yn darparu cyflwyniad beiddgar iawn i’r ddogfen a’r polisi newydd. Wrth sôn am agwedd newydd tuag at lywodraeth, mae’n dweud, nid camu’n ôl yn unig a gadael i fusnes fwrw ymlaen â’r gwaith, ond camu i fyny i rôl newydd, weithgar sy’n cefnogi busnesau ac yn sicrhau bod mwy o bobl ym mhob cwr o’r wlad yn rhannu manteision ei llwyddiant.

Rwy’n credu bod hyn yn bwysig. Mae’n dangos newid athronyddol o bwys yn y Llywodraeth Geidwadol, ac mae’n cydnabod bod ymyrraeth weithredol yn yr economi yn creu economïau cryfach ac economïau mwy cytbwys. Wrth i mi eistedd yn fy swyddfa’n darllen y paragraffau hynny o’r cyflwyniad i’r polisi, roeddwn yn meddwl tybed beth fyddai disgyblion economeg y farchnad rydd, megis Keith Joseph, wedi ei wneud o’r dröedigaeth a welsom yn awr gan Lywodraeth y DU. Rwy’n hoffi bod yn golegaidd, ac felly mae’n rhoi pleser mawr i mi allu dweud ein bod i gyd yn ymyraethwyr yn awr mewn gwirionedd. Fe ddywedaf hefyd fod yna lawer yn y Papur Gwyrdd y gallaf gytuno ag ef. Mae blaenoriaethu gweithgarwch sy’n cefnogi busnes a masnach, gwella seilwaith a gwella amodau i gefnogi twf cynaliadwy yn feysydd polisi yr wyf yn fwy na pharod i’w harddel. Ond rwyf eisiau gwneud dau bwynt pwysig iawn. Mae’r cyntaf yn ymwneud â gweithredoedd yn bwysicach na geiriau. Mae’r Papur Gwyrdd yn sôn yn agored iawn am y cyfleoedd i ysgogi’r economi mewn sectorau strategol bwysig. Mae’n sôn am fargen sector bosibl ar gyfer dur—partneriaeth newydd rhwng busnesau dur, y gadwyn gyflenwi, sefydliadau ymchwil a’r Llywodraeth sy’n gallu cefnogi’r sector dur i dyfu a ffynnu yn y dyfodol. Mae fy ymateb yn un cadarnhaol. Mae angen dybryd ar y sector dur ar draws y DU am gymorth y gall llywodraeth y DU ei gynnig ar raddfa na all neb ond Llywodraeth y DU ei gynnig. Ond mae’n drueni bod y 12 mis y mae wedi cymryd i Lywodraeth y DU ddod i’r casgliad hwn yr un 12 mis â phan oedd y sector dur fwyaf o angen ymyrraeth Llywodraeth. Fel y dywedodd Hannah Blythyn yn gywir, mae Tata, yr undebau a’r gweithlu yn cydnabod mai’r unig reswm ein bod wedi gallu osgoi trychineb yn y sector dur yw oherwydd ymyriadau gan Lywodraeth Cymru. Felly, rwy’n gobeithio y bydd y symud tuag at ymyriadaeth gan Lywodraeth y DU yn cael ei wireddu ar ffurf camau gweithredu yn ogystal â geiriau.

Mae pwynt pwysig arall yr hoffwn ei wneud yn ymwneud â datganoli. Rwy’n meddwl mai un gwendid allweddol yn y Papur Gwyrdd yw diffyg unrhyw ddealltwriaeth gydlynol o’r ffordd y mae’r broses o lunio polisi economaidd wedi newid yn y DU dros y ddau ddegawd diwethaf. Nawr, bydd llawer o lwyddiant Brexit, fel y buom yn ei archwilio ddoe, rwy’n credu, yn cael ei benderfynu yn ôl pa mor effeithiol y mae Llywodraeth y DU yn ymwneud â, yn ymagor i—ac yn ymgysylltu’n ystyrlon â—gweinyddiaethau datganoledig ac ardaloedd rhanbarthol ynglŷn â’r penderfyniadau a fydd yn effeithio arnom i gyd. Felly hefyd bydd llwyddiant neu fethiant y strategaeth ddiwydiannol hon yn dibynnu ar faint y mae Llywodraeth y DU am ei wneud i Gymru, a faint y mae Llywodraeth y DU am ei wneud gyda Chymru. Nawr, fel y mae gwelliant y Llywodraeth Cymru yn ei egluro, ac fel y dywedais wrth yr Ysgrifennydd Gwladol, Greg Clark, fy hun, mae Llywodraeth Cymru yn barod i weithio ar y cyd ac yn ystyrlon â Llywodraeth y DU ar feysydd o ddiddordeb diwydiannol a rennir ac sy’n gorgyffwrdd. Fel y dywedais eisoes, yn ddiweddarach yn y gwanwyn, byddwn yn cyhoeddi ein strategaeth drawslywodraethol i ddatblygu economi Cymru, a byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod y ddwy ymagwedd yn gweithio dros Gymru, ei heconomi a’i busnesau. Cytunaf yn llwyr yn hyn o beth â chyfraniad gwych Nick Ramsay, ond hoffwn nodi un peth yn glir iawn yma yn awr: mae’n rhaid i’r bartneriaeth rhyngom a Llywodraeth y DU fod yn seiliedig ar barch a statws cyfartal. Rhaid iddi gydnabod a pharchu’r setliad datganoli.

Un ardal lle y ceir partneriaeth bwysig ac effeithiol yw gogledd Cymru. Er clod i Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’i dîm gweinidogol, rwy’n credu, mae wedi dangos yr hyn y credaf ei fod yn barodrwydd drwy fargen dwf gogledd Cymru i weithio gyda’n gilydd mewn ffordd all fod o fudd i’r rhanbarth drwy fanteisio ar yr economi drawsffiniol. Mae gwaith ar gam cynnar ond mae’r cysylltiadau sydd wedi’u datblygu hyd yn hyn wedi bod yn galonogol. Unwaith eto, fodd bynnag, mae’n ymwneud â chamau gweithredu, nid geiriau. Trwy’r fargen dwf, mae gan Lywodraeth y DU blatfform perffaith arall i arddangos y polisi diwydiannol mwy cyhyrog y mae’n sôn yn gynnes amdano yn y Papur Gwyrdd.

Edrychaf ymlaen yn y misoedd nesaf at weld cynnydd gwirioneddol ar drydaneiddio prif reilffordd y gogledd, mwy o gymorth gweithredol i Wylfa Newydd a gweledigaeth glir ar gyfer sut y gall y rhanbarth gysylltu â Phwerdy Gogledd Lloegr a Phwerdy Canolbarth Lloegr fel arweinwyr allweddol economïau rhanbarthol deinamig. Nododd Russell George yr angen am fwy o fuddsoddi mewn technoleg yn rhanbarthau Lloegr. Yng ngogledd Cymru, lle y soniodd yn benodol am yr angen i fuddsoddi, rydym wedi cyhoeddi bod canolfan ymchwil uwch-weithgynhyrchu yn mynd i gael ei sefydlu i gyflawni’r math hwnnw o arloesedd ac ymchwil. Hefyd, rydym yn buddsoddi ym mharc gwyddoniaeth Menai i’r un diben. Rydym yn dangos, gydag arian parod, ein penderfyniad i fuddsoddi yng ngogledd Cymru. Edrychwn ymlaen at weld Llywodraeth y DU yn gwneud yr un peth.

Nawr, hoffwn fod yn hael tuag at fy nghyd-Aelodau Ceidwadol—[Torri ar draws.] Na. Rwyf eisiau bod yn hael tuag at fy nghyd-Aelodau Ceidwadol, felly yn y fan hon rwyf am ddiolch o galon i Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Drafnidiaeth, Chris Grayling, a dalodd deyrnged wenieithus iawn yr wythnos diwethaf yn Nhŷ’r Cyffredin i ymyrraeth bwysig a wnaeth Llywodraeth Cymru yn economi Cymru yn y blynyddoedd diwethaf pan ganmolodd lwyddiant mawr Maes Awyr Caerdydd ers iddo gael ei brynu gennym yn 2013. Dywedodd hyn:

Mae Maes Awyr Caerdydd wedi bod yn llwyddiant mawr, ac rwy’n talu teyrnged i bawb sy’n gysylltiedig â hynny.

Gyda niferoedd teithwyr yn uwch nag erioed, llwybrau newydd a thwf parhaus, mae’r Ysgrifennydd trafnidiaeth yn hollol gywir i ddathlu’r polisi ymyraethol a fabwysiadwyd gennym ar gyfer Maes Awyr Caerdydd ac economi Cymru.

Felly, mae fy neges i Lywodraeth y DU yn y ddadl hon yn un syml: fe weithiwn gyda chi, ond ar sail gyfartal, a lle y mae Llywodraeth y DU yn dangos parodrwydd newydd i fuddsoddi yng Nghymru.