Part of the debate – Senedd Cymru am 5:59 pm ar 8 Chwefror 2017.
Mewn gwirionedd ni allaf ddweud wrthych a yw’n bopeth, oherwydd pwy a ŵyr? Yn yr un modd, rydych chi’n bendant heb wneud popeth y gallech fod wedi ei wneud. Ond gadewch i ni fod yn glir: beth sydd gennym? Mae gennym ganlyniad sy’n diogelu diwydiant gwerthfawr i Gymru. Mae gennym ganlyniad a fydd yn ei gwneud hi’n bosibl i fuddsoddiad enfawr ddigwydd yn Tata Steel ac yn y diwydiant dur yng Nghymru, a dyna beth rydym ei eisiau—canlyniadau. Canlyniadau, yn anffodus, Ysgrifennydd y Cabinet, yw’r hyn nad ydym yn ei weld gennych chi. Rydym yn dal i aros am y gwanwyn i weld beth yw eich strategaeth ddiwydiannol, a’r cyfan y gofynnwn i chi ei wneud yw nodi’r ffaith fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi arwain y ffordd. Maent wedi cyflwyno—er gwell, er gwaeth, i ennyn sylwadau, i sicrhau gwelliant—strategaeth ar gyfer y DU gyfan y gallwn i gyd edrych arni a gweld sut y gallwn fynd â hi, ei symud drwy Gymru, a helpu i ysgogi ein heconomi.
Oherwydd yr hyn sydd ei angen arnom, Adam Price, yw ymchwil a datblygu. Mae arnom angen addysg a sgiliau. Mae arnom angen cefnogaeth i fwyafrif helaeth o’r busnesau yn ein gwlad, gyda llawer ohonynt yn y sectorau bach a chanolig eu maint. Mae’n rhaid i ni ledaenu’r twf economaidd teg y mae Steffan Lewis yn siarad amdano o hyd, a hynny’n briodol. Mae ymchwil a datblygu yn hanfodol gan nad oes rhaid iddo fyw yn yr ardaloedd traddodiadol. Mae angen diwydiannau newydd arnom.
Jenny Rathbone, rwy’n derbyn y pryderon a’r gofidiau ynglŷn ag awtomeiddio a beth y gallai awtomeiddio ei wneud i ddiwydiannau wrth iddo fynd yn ei flaen. Ond dyma ni, rydym wedi’n dal mewn magl, gan nad yw awtomeiddio yn mynd i ddiflannu. Dyma ffordd y byd. Mae eich plant chi, fy mhlant i, a’n hwyrion yn mynd i fyw mewn byd mor wahanol i’r un yr ydym yn byw ynddo. Yr hyn sy’n rhaid i ni ei wneud yw dod o hyd i’r busnesau newydd hynny, eu hannog i dyfu mewn ardaloedd lle y mae pobl yn byw, lle y mae pobl eisiau byw, gwella eu sgiliau ac edrych ar ffyrdd gwahanol o allu gwneud arian, ennill cyflogau, prynu ein cartrefi, gofalu am ein teuluoedd a byw bywyd da. Ond nid yw awtomeiddio’n mynd i ddiflannu am eich bod yn dymuno i hynny ddigwydd.
Mae rhai pwyntiau da iawn yn strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU. Rwy’n hoffi cronfa her y strategaeth ddiwydiannol. Credaf fod honno mor gadarnhaol. Bydd yn rhoi cyfle i gwmnïau yn y DU fanteisio ar ein cryfderau mewn pethau fel biotechnoleg ac ynni gwyrdd. Rwy’n hoffi’r ffaith eu bod yn mynd i edrych ar ostyngiadau treth i bobl sy’n buddsoddi mewn ymchwil a datblygu. Gadewch i ni ddefnyddio peth o’r arian mawr sydd gan rai o’r bobl gyfoethog hyn i fuddsoddi mewn ymchwil a datblygu a helpu i dyfu’r cymunedau sydd eu hangen arnom.
Eto i gyd, rhaid i mi ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet, nad wyf yn gweld bod Llywodraeth Cymru wedi dangos yr un lefelau o fuddsoddiad mewn ymchwil a datblygu. Cafwyd toriadau mawr yn y llinellau cyllideb o ran cyllid i adnoddau arloesi busnes. Cafwyd toriadau enfawr mewn canolfannau arloesi a llinellau cyllideb cyfleuster ymchwil a datblygu. Ac un elfen yn unig yw ymchwil a datblygu, wrth gwrs, o’r broses o gefnogi strategaeth ddiwydiannol lwyddiannus.
Addysg a hyfforddiant—pwnc sy’n agos at galonnau’r rhan fwyaf ohonom. Rydym yn siarad am yr angen i wella sgiliau ein pobl. Nid wyf yn mynd i ailadrodd y problemau, yr heriau a’r siomedigaethau sydd gennym yn y maes yn y wlad hon, ond mae’n rhaid i ni wneud yn well, gan fod 72 y cant o fusnesau Cymru yn profi anawsterau wrth recriwtio’r staff cywir—72 y cant—ac mae 61 y cant o fusnesau Cymru yn ofni na fyddant yn gallu recriwtio digon o weithwyr medrus iawn i ateb y galw presennol ac i gefnogi twf pellach. Os na allwn gefnogi twf pellach, sut rydym yn mynd i dyfu ein heconomi? Dyna’r allwedd hanfodol sy’n dal ar goll yma yng Nghymru. Rwy’n eich herio, Ysgrifennydd y Cabinet: mae angen i chi fod yn fwy uchelgeisiol o ran cefnogi busnesau bach a chanolig eu maint. Rwy’n dweud wrthych nad yw’r modd yr ydych yn bwnglera ardrethi busnes yn ddigon da. Rhyddhewch gyllid. Pwyswch ar y banciau.
Mae’r Papur Gwyn yn sôn yn egniol am yrru’r economi yn ei blaen. Rhaid i fusnesau, cyfredol a darpar fusnesau, aros tan y gwanwyn. Ac mae hyn yn digwydd yng nghyd-destun y ffaith fod Cymru’n llusgo cymaint ar ôl y DU o ran gwerth ychwanegol gros. Mae strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU yn ffordd ymlaen gyda’r nod o wella safonau byw ym mhob rhan o’r DU. Mae’n ffordd ymlaen i sicrhau buddsoddiad sylweddol yn y seilwaith. Mae’n ffordd ymlaen i sicrhau buddsoddiad mewn ymchwil a datblygu a gwyddoniaeth. Ac mae’n ffordd ymlaen i gefnogi twf busnes. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n awgrymu eich bod yn dechrau cerdded yn eich blaen yn lle mynd am yn ôl o hyd.