Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 14 Chwefror 2017.
Un o'r pethau eraill, Brif Weinidog, y gellir ei wneud er mwyn ymladd twyll yw sefydlu ardaloedd dim galw diwahoddiad. Bu hyn yn rhywbeth sydd wedi bod yn hynod lwyddiannus yn fy etholaeth i, lle mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cyflwyno un ar gyfer tref gyfan Abergele. Pa waith ydych chi'n meddwl y gallwn ni ei wneud yma yn y Cynulliad Cenedlaethol, ac y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, i wneud Cymru y wlad dim galw diwahoddiad gyntaf ym Mhrydain?