<p>Datblygu Economaidd yn Ne-ddwyrain Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 14 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 1:32, 14 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Cafwyd newyddion da ynghylch swyddi yn ddiweddar, ac rwy’n croesawu'r ffaith bod Biocell British International Ltd yn symud o Lanisien i Grymlyn, gan aros yng Nghymru a chyda chynnydd i niferoedd. Ond mae hynny’n golygu bod y swyddi hyn yn gadael Llanisien ar yr un pryd ag y mae cynlluniau i S4C symud i Sgwâr Canolog Caerdydd, ac i Gaerfyrddin, a hefyd, ar yr un pryd ag y mae’r swyddfeydd treth yn bwriadu symud i lawr i’r Sgwâr Canolog. Felly, ceir ecsodus enfawr o swyddi o un ardal fechan iawn yn yr etholaeth. Felly, roeddwn i’n meddwl tybed a oedd gan y Prif Weinidog unrhyw awgrymiadau ynghylch pa strategaethau y gellid eu defnyddio i sicrhau bod yr ardal honno yn parhau i fod yn ardal gymysg, lle ceir y posibilrwydd o gael swyddi lleol, oherwydd mae hwn yn newid mawr i'r sefyllfa swyddi yno.