<p>Datblygu Economaidd yn Ne-ddwyrain Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 14 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 1:36, 14 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Brif Weinidog, esboniwyd gennych yr wythnos diwethaf, er bod Awdurdod Cyllid Cymru yn cael ei greu, bod yn rhaid recriwtio bron pob un o'r staff yn Llundain gan nad oes gennym ni’r bobl â sgiliau yma yng Nghymru, ac mae hon yn broblem barhaus. Ond mae'n codi’r cwestiwn braidd ynghylch beth mae eich Llywodraeth wedi bod yn ei wneud am sgiliau a hyfforddiant dros y 17 mlynedd diwethaf.