<p>Hyrwyddo Creu Swyddi yng Nghasnewydd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 14 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Labour 1:58, 14 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Brif Weinidog. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, a leolir yn Nyffryn yng Nghasnewydd, yn agor campws gwyddoniaeth data ym mis Mawrth. Bydd y campws yn gweithredu fel canolfan ar gyfer dadansoddi data mawr, a fydd yn caniatáu gwaith cydweithredol rhwng academyddion, y Llywodraeth, y sector cyhoeddus, diwydiant a phartneriaid trydydd sector sy'n dymuno gwthio ffiniau darpariaeth eu gwasanaethau. Gan ddarparu mesuriadau a dadansoddiadau cyfoethog a gwybodus ar yr economi, yr amgylchedd byd-eang a chymdeithas ehangach, bydd y campws yn dod yn gyfleuster o'r radd flaenaf. Y dyhead i greu Silicon Valley i Gymru yw'r bwriad, ac y bydd yn ganolfan ar gyfer gwaith ymchwil gwyddoniaeth data arloesol, gan helpu i greu swyddi a denu buddsoddiad. A wnaiff Llywodraeth Cymru weithio gyda'i phartneriaid a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol i hyrwyddo'r ymdrech hon i greu 'silicon valley' i Gymru?