Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 14 Chwefror 2017.
Brif Weinidog, Casnewydd yw un o'r trefi neu ddinasoedd sy'n perfformio waethaf yn y Deyrnas Unedig pan ddaw i siopau gwag. Roedd mwy na chwarter siopau’r ddinas yn wag yn ystod hanner cyntaf 2016, yn ôl y Cwmni Data Lleol. Pa gynllun y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i ddarparu cymhellion, fel rhyddhad treth, i bobl agor busnesau newydd mewn ardaloedd lle ceir nifer fawr o siopau gwag, fel Casnewydd, i greu swyddi ac adfywio canol ein dinasoedd?