<p>Y Trydydd Sector</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 14 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Neil McEvoy Neil McEvoy Plaid Cymru 2:01, 14 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Brif Weinidog. A ydych chi’n ymwybodol bod Public Affairs Cymru wedi datgelu bod dros hanner ei aelodau wedi dweud bod enghreifftiau wedi codi—rwy’n dyfynnu nawr— pan ofynnwyd i lobïwyr ac ymgyrchwyr ailystyried safbwyntiau neu beidio â dweud pethau penodol nad yw Llywodraeth Cymru yn cytuno â nhw?

Wel, yn gyntaf oll, roeddwn i’n meddwl nad oedd gan lobïwyr unrhyw gyswllt gyda'r Llywodraeth—dyna ddywedwyd wrthym ni yn y Siambr hon—ond, yn wir, mewn geiriau eraill, mae eich Llywodraeth yn pwyso ar bobl, ac yn pwyso ar sefydliadau. Sensoriaeth yw hyn, ac mae'n annemocrataidd. Felly, yng ngoleuni’r sgandal hwn, yng ngoleuni'r honiadau cywilyddus hyn, pam na wnewch chi ymchwilio i'r mater hwn?