– Senedd Cymru ar 14 Chwefror 2017.
Rwyf wedi derbyn cwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66 ac rydw i’n galw ar Russell George i ofyn y cwestiwn brys.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad yn dilyn adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar y cwmni Kancoat o Abertawe? EAQ(5)0121(EI)
Gwnaf. Mae fy swyddogion a minnau wedi cynorthwyo'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar bob cam o'i ystyriaethau ar y pwnc hwn. Rwyf wedi derbyn adroddiad y pwyllgor, ac yn ei groesawu’n fawr, a byddwn yn ymateb yn llawn iddo.
A gaf i ddiolch Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb? Mae'r adroddiad a gafwyd gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi codi rhai pryderon difrifol iawn, fe ddywedwn i, Ysgrifennydd y Cabinet, ynglŷn ag ymddygiad Llywodraeth Cymru, wrth i swm sylweddol arall eto o arian trethdalwyr—£3 miliwn—gael ei golli. Mae rhai cwestiynau am atebolrwydd yn y fan yma, ac yn anffodus, nid hwn yw’r tro cyntaf i arian trethdalwyr gael ei wastraffu gan Lywodraeth Cymru. Rydym wedi gweld nifer o benderfyniadau amheus eraill, gan gynnwys Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio, Kukd a Triumph. Nid wyf yn credu o gwbl na ddylai Llywodraethau fod yn fentrus; rwy’n bendant yn credu y dylen nhw, ond dylen nhw wneud hynny mewn ffordd gytbwys. O ran Kancoat, dro ar ôl tro, mae'r cyngor arbenigol a roddwyd i Lywodraeth Cymru wedi rhybuddio bod gan y cwmni gynllun busnes gwan a’i fod yn fuddsoddiad risg uchel. Felly, a gaf i ofyn pam, yn eich barn chi, Ysgrifennydd y Cabinet, y cafodd y cyngor ei anwybyddu—gan gofio hefyd, wrth gwrs, bod cangen buddsoddi’r Llywodraeth, Cyllid Cymru, wedi ei nodi fel risg annerbyniol o uchel? Beth yw eich dyfarniad ar hyn, o ystyried y newidiadau y gwn eich bod wedi eu gwneud yn eich adran ers i chi ddechrau yn eich swydd, ac ai eich barn chi yw fod yr adran a etifeddwyd gennych wir yn anaddas i’w ddiben? Ydych chi wedi sôn—? Rydych chi wedi crybwyll mewn datganiadau diweddar eich bod wedi rhoi gweithdrefnau newydd ar waith erbyn hyn; beth yw’r gweithdrefnau newydd hyn? Rwy'n credu mai dyna'r cwestiwn allweddol yn y fan yma. Ac yn olaf, ble y mae’r atebolrwydd yn gorwedd, yn eich barn chi? Ai gyda’ch rhagflaenydd, neu gyda swyddogion?
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau? Rydym bob amser yn dysgu ac, yn wir, gwnaeth fy rhagflaenydd newidiadau yn yr adran pan wnaeth hithau ei hetifeddu. Yn wir, cyflwynodd fy rhagflaenydd y weithdrefn panel buddsoddi er mwyn cryfhau goruchwyliaeth ystyriaethau buddsoddi a sicrhau wrth roi ystyriaeth i risg y gellid dod i benderfyniad deallus. Mae'r dirprwy ysgrifennydd parhaol wedi dweud ar goedd, yn yr achos hwn, bod y panel buddsoddi wedi gwneud camgymeriad, ac felly, wedi rhoi cyngor gwallus i'r Gweinidog. Ond rwyf i o’r farn, ac mae'r Aelod yn cydnabod y ffaith, fod yn rhaid i ni gael cydbwysedd rhwng mentro ac achub ar gyfle. Ac fel y mae'r Prif Weinidog eisoes wedi ei nodi, mae’n achos, yn ffaith ddigamsyniol, bod fy rhagflaenydd, yn nhymor y Cynulliad blaenorol, wedi goruchwylio’r twf mwyaf erioed, pan oedd cyfradd llwyddiant y busnesau a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru yn fwy na 97 y cant. Mae hynny'n cymharu'n hynod ffafriol â’r cyfartaledd yng Nghymru ac, yn wir, mae hyd yn oed yn well na chyfartaledd y DU. Felly, rwy’n credu bod gennym, mewn gwirionedd, stori y gallwn fod yn falch iawn ohoni, i’w hadrodd am lwyddiant Llywodraeth Cymru o ran rhoi cymorth i fusnes. Serch hynny, nid yw pob busnes yn goroesi, nid yw pob busnes yn llwyddo. Byddwn yn gwneud yr hyn a allwn i helpu ffyniant busnesau, ond bydd achosion, yn enwedig yng nghyd-destun y cyfnod yn dilyn y cwymp ariannol, pryd y sefydlwyd busnesau a phan nad oedd yr hinsawdd economaidd yn sefydlog ac yn caniatáu cyflawni’r twf a ragwelwyd.
Mae gennym nifer—ac mae’r Aelod yn cydnabod hyn—o newidiadau gweithdrefnol sydd wedi eu rhoi ar waith. Byddwn i'n hapus i ysgrifennu at yr holl Aelodau i roi’r manylion. Mewn gwirionedd, gan fod arweinydd y Ceidwadwyr, rwy’n credu, yn dymuno gwybod beth ydyn nhw, fe’u rhoddaf yn awr: mae ystyriaeth o fenthyciadau masnachol bellach yn rhan o'r weithdrefn panel buddsoddi; erbyn hyn mae’n rhaid i'r uwch dîm rheoli gadarnhau unrhyw argymhelliad gan y panel buddsoddi ar gyfer benthyciadau masnachol dros £1 filiwn; yn rhan o'r broses cymeradwyo ariannol, mae’n rhaid cynnal gwerthusiad annibynnol erbyn hyn o'r holl brosiectau sy'n cynnwys benthyciadau masnachol; mae arolygu benthyciadau wedi ei symud i’r tîm arolygu canolog—roedd hwnnw yn brotocol adrannol y cytunwyd arno; mae ceisiadau am fenthyciadau yn cael eu hasesu yn fwy trylwyr o ran eu gallu i ad-dalu drwy gynnal diwydrwydd dyladwy ariannol priodol; mae newid pellach mewn gweithdrefnau, a gydnabuwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru fel bod yn ymagwedd safonol at asesu risg, wedi ei gyflwyno er mwyn sicrhau cysondeb mewn cynlluniau ariannu, a phan ystyrir ymyriaethau lluosog, cânt eu hystyried gan un corff erbyn hyn, gyda chyngor priodol gan y tîm arwain ar gyfer eiddo. Ceir gweithdrefnau eraill yr ydym wedi'u cyflwyno yn y pedwerydd Cynulliad. Ceir gweithdrefnau pellach y byddaf innau’n eu cyflwyno hefyd.
O ran yr argymhellion a wnaed gan y pwyllgor, ac rwyf yn gwerthfawrogi gwaith y pwyllgor ac, yn wir, yr adroddiad sydd wedi ei lunio, rwy’n credu y byddai'n anodd iawn i anghytuno ag unrhyw un o'r argymhellion hynny sydd wedi eu gwneud sy'n berthnasol i’m portffolio i. Er y byddaf yn ymateb maes o law i bob un o argymhellion y pwyllgor, gallaf ddweud fy mod eisoes yn derbyn nifer o’r argymhellion ac, yn wir, rwyf eisoes wedi rhoi rhai ohonynt ar waith.
Wrth gwrs, un argymhelliad nad ydych yn gallu ymateb iddo, ond mae’n rhaid ei roi o’r neilltu ar hyn o bryd, yw'r argymhelliad ehangach ar gyfrifoldeb gweinidogion, wrth wneud penderfyniadau sy'n bwysig i etholwyr ac etholaeth Gweinidog, ond nid mewn gwirionedd wedi eu lleoli yn yr etholaeth. Mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn dweud bod y modd y mae gwrthdaro buddiannau yn cael ei ddirnad yn llawn mor bwysig â gwrthdaro buddiannau gwirioneddol. Y tro hwn, rwyf yn awgrymu na wnaeth y Prif Weinidog ymarfer sylw priodol ac nad oedd yn sylweddoli pa weithdrefnau y dylid eu dilyn, ac y dylai Gweinidog arall fod wedi gwneud y penderfyniad hwn.
A gaf i hefyd ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a dweud wrtho fy mod i wedi ysgrifennu at ei ragflaenydd, Edwina Hart, ar 1 Awst 2014—rai wythnosau cyn i'r cwmni fynd i ddwylo'r gweinyddwyr—a chodi nifer o bryderon difrifol gyda hi a fynegwyd wrthyf gan weithwyr y cwmni sy'n byw yn fy rhanbarth i, yn Llanelli, oherwydd bod gweithwyr yn y cwmni hwn wedi eu gwasgaru dros ardal eithaf eang? Roedden nhw yn pryderu yn arbennig am y brydles a oedd wedi ei chytuno gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar y pryd hwnnw, y dywedwyd wrthyf ei bod werth £1.25 miliwn a’i bod yn weithredol am bum mlynedd heb gymal toriad yn ystod y pum mlynedd hynny. A gaf i ddeall, felly, a ydych chi’n dal i fod wedi eich ymrwymo i’r brydles honno a beth yw cost gyfredol y brydles honno i Lywodraeth Cymru? Oherwydd byddai’n ymddangos bod hynny'n ychwanegol i’r costau yr ydym wedi eu gweld hyd yma yn adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a hoffwn gael cadarnhad o hynny.
Yr ail elfen a oedd yn achos pryder mawr i'r gweithwyr yn y ffatri oedd y ffaith bod nifer o gyfarwyddwyr, ar yr adeg yr oedden nhw’n diswyddo gweithwyr, yn cyflogi eu hunain am gyfnod o amser ar gost o hyd at £7,000 y mis, fel ymgynghorwyr hunangyflogedig neu fel arall wedi eu cyflogi yn llawn amser gan Kancoat. Roedd hyn mewn cyfnod pan yr oedd hi’n ymddangos bod y cwmni mewn trafferthion a bod hynny’n gyhoeddus, a chodais hyn yn uniongyrchol gyda'ch rhagflaenydd. Yr ateb a gefais ganddi oedd dim ond dweud bod diwydrwydd dyladwy llawn a thrylwyr wedi ei gynnal. Rydym yn gwybod erbyn hyn nad yw'n ymddangos bod hynny’n wir. Beth ddywedwch chi nawr, ddwy flynedd yn ddiweddarach, wrth y gweithwyr yno a oedd yn codi’r pryderon hyn, ac a ydych chi’n hollol dawel eich meddwl na chymerodd cyfarwyddwyr y cwmni hwn unrhyw arian eu hunain yn bersonol, yn sgil y sefyllfa anffodus y canfu’r cwmni ei hun ynddi?
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau ef hefyd? Rwyf yn credu mai cwestiwn i’r Prif Weinidog yw’r un am gyfrifoldebau gweinidogol. Byddwn yn rhybuddio yn erbyn ceisio ymdrin â’r holl ddirnadaeth o wrthdaro buddiannau yn y fath fodd fel y byddai’n achos llesgedd o fewn y Llywodraeth. Gwlad fechan ydym ni gyda—yn enwedig yn y de-ddwyrain—pharth teithio i’r gwaith eang iawn, ac felly y mae'n bwysig, wrth gydnabod yr angen i sicrhau nad oes unrhyw ddirnadaeth o wrthdaro buddiannau, ein bod yn galluogi Gweinidogion i allu gwneud penderfyniadau ar sail ranbarthol. Er hynny, mater i'r Prif Weinidog ymateb iddo yw hwnnw, fel y dywedais. Rwyf yn fodlon iawn i adolygu'r holl ohebiaeth, gyda'i ganiatâd ef, a anfonodd yr Aelod at fy rhagflaenydd, mater y mae ef wedi ei godi yn y gorffennol, a'r pryderon a fynegwyd ganddo yn y gorffennol. Byddaf yn gwirio’r diwydrwydd dyladwy, ond nid yw'n wir bob amser y byddai diwydrwydd dyladwy wedi methu. Asesiad risg a wnaed yn seiliedig ar y wybodaeth a gafwyd, ac yna cafodd penderfyniad ei seilio ar hynny, yn ogystal ag ystyriaethau'r panel buddsoddi.
O ran y cwestiwn y brydles, mae hyn yn ymwneud—yn fy nhyb i—ag argymhelliad 11, a'r cwestiwn ehangach o ran unrhyw gostau ariannol parhaus i Lywodraeth Cymru. Mae gan fuddsoddwyr diddordeb pendant yn y safle, a phan fydd canlyniad y trafodaethau yn hysbys, bydd swyddogion yn rhannu unrhyw oblygiadau ariannol gydag Aelodau'r Siambr hon. Rwyf hefyd yn addo ymchwilio, o ran y cwestiwn olaf a gododd yr Aelod, i ba un a yw cyfarwyddwyr y cwmni hwnnw mewn sefyllfa i gael unrhyw fudd o gwbl yn dilyn cwymp y cwmni.
Ysgrifennydd y Cabinet, diolch i chi am eich ateb cynharach. A gaf i yn gyntaf groesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi ymateb llawn i adroddiad y pwyllgor ar sefyllfa Kancoat? Fel y dywedasoch, bydd eich ymateb i'r adroddiad yn cael ei ystyried yn llawn gan y pwyllgor, felly nid wyf yn dymuno barnu’r cam hwnnw o'r broses o flaen llaw, neu yn wir bod yn ailadroddus yn fy holi. Rwy'n falch o glywed eich bod eisoes wedi dweud eich bod, mewn egwyddor, yn fodlon derbyn nifer o argymhellion yr adroddiad hwnnw, ac rwyf yn credu eich bod hefyd wedi dweud eich bod eisoes wedi cymryd camau i weld bod y cammau hynny wedi eu rhoi ar waith, ac mae hwnnw'n gam gwirioneddol gadarnhaol, felly diolch i chi am hynny.
A gaf i ofyn i chi, ar fater ehangach, a ydych chi’n croesawu'r bwriad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru i gynnal archwiliad gwerth am arian ehangach i agwedd Llywodraeth Cymru at gyllid busnes, ac a fyddwch chi a'ch swyddogion yn cydweithio â’r archwiliad hwn yn ddiweddarach eleni? Mae'n amlwg, os bydd yn mynd rhagddo yn y fformat y mae'r archwilydd cyffredinol yn ei ystyried, y bydd yn ddarn mawr iawn o waith, ond rwyf o’r farn y bydd yn un defnyddiol, ar gyfer y Llywodraeth ac er mwyn i’r cyhoedd hefyd fod yn hyderus bod y gweithdrefnau ar waith i sicrhau nad yw’r math o broblemau gyda diwydrwydd dyladwy, a’r rhai eraill a welsom gyda Kancoat, yn digwydd eto. A gaf i ddweud yn syml, Ysgrifennydd y Cabinet, bod y pwyllgor yn cydnabod pa mor hanfodol yw cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer busnes o ran sicrhau ffyniant Cymru yn y dyfodol—pwynt a wnaeth Russell George yn ei gwestiwn agoriadol—ac rydym ni’n awyddus i sicrhau ei fod yn cael ei weinyddu yn y modd gorau? Rydym yn croesawu'r gwaith arfaethedig i sicrhau bod arian trethdalwyr yn cael ei wario yn ddoeth er budd effeithlonrwydd, gwerth am arian, a chyda manteision economaidd ehangach, ac edrychaf ymlaen at eich ymateb i'r pwyllgor, ac rwy'n siŵr y gallwn symud y sefyllfa hon yn ei blaen.
A gaf i ddiolch i Nick Ramsay am ei gwestiynau, a hefyd am oruchwylio'r ymchwiliad hwn fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Byddwn, mi fyddwn yn gweithio'n agos gyda'r archwilydd cyffredinol, a chroesawaf yn fawr ei fwriad i gynnal ymchwiliad ehangach o gymorth i fusnes gan Lywodraeth Cymru. Un o'r newidiadau gweithdrefnol ychwanegol sy'n cael eu cyflwyno trwy lefel ehangach o weithgarwch i’r panel buddsoddi yw'r gallu i gymryd egwyl a myfyrio ar y gwaith sy'n cael ei wneud gan y tîm swyddogion a fydd yn arwain y prosiect ar raglenni buddsoddi a chredaf fod hyn wedi ein galluogi ni i gael rhywfaint o adolygiad gan gymheiriaid, sef bod gwaith a gaiff ei ddwyn ymlaen gan un grŵp yn cael ei adolygu gan grŵp arall yn y Llywodraeth. Gallaf ddweud wrth yr Aelod ar hyn o bryd, o ran yr 11 argymhelliad, rwyf eisoes wedi datgan, o ran yr argymhelliad terfynol, bod diddordeb pendant, a byddaf yn rhoi mwy o wybodaeth i’r Aelodau am ganlyniad y trafodaethau wrth iddynt gael eu cwblhau.
Gan sôn yn gryno am bob un o'r argymhellion, o ran Argymhelliad Rhif 1, rydym eisoes wedi dechrau diffinio deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch, a chredaf fod y ganolfan ymchwil gweithgynhyrchu uwch yng Nglannau Dyfrdwy yn enghraifft o hyn. O ran argymhelliad 2, dylid derbyn hwnnw, yn fy nhyb i, ac rydym wedi dechrau ymgorffori'r argymhelliad mewn gweithdrefnau. O ran argymhellion 3, 4 a 5, unwaith eto, mewn egwyddor, rydym yn derbyn yr argymhellion, ac mae'n gwbl briodol i edrych eto ar y canllawiau ar gyllid busnes nad yw’n ad-daladwy o ystyried anghenion newidiol busnes a'r hinsawdd economaidd. O ran argymhelliad 6, unwaith eto, mae argymhelliad ar nodi risgiau a lliniaru arfaethedig wedi ei dderbyn rwy’n meddwl—dylid ei dderbyn—ac, unwaith eto, mae’n cael ei weithredu.
A, chan droi at argymhellion 8, 9 a 10, unwaith eto, rydym wedi derbyn y rheini, ac rydym yn eu rhoi ar waith.
Rwyf yn derbyn yr hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet am natur risg. Yn wir, dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach yn ystod cwestiynau na fydd pob buddsoddiad, ni waeth pa mor ofalus y byddwch chi, yn llwyddo, a byddai'n afresymol i fod yn rhy feirniadol pan ei fod yn methu am resymau sydd y tu hwnt i'n rheolaeth ni. Dywedodd y dirprwy ysgrifennydd mewn tystiolaeth i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus mai swyddogaeth y Llywodraeth yn y fan yma i bob pwrpas yw bod yn fenthyciwr pan fetha popeth arall, a dywedodd:
Mae ariannu pethau nad yw'r sector preifat yn fodlon eu hariannu yn awgrymu mentro pan na fydd y sector preifat yn fodlon mentro, sy'n awgrymu y bydd pethau yn methu.
Felly, rydych yn cychwyn o sefyllfa lle mae'n rhaid i chi fod yn feirniadol tu hwnt.
Ond yr hyn yr ydym yn ymdrin ag ef yn y fan yma yw achos pan na chafodd y cyngor diwydrwydd dyladwy a gafwyd gan gynghorwyr y Llywodraeth ei hun ei dderbyn, ac nid wyf yn credu bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi rhoi ateb i Russell George yn hyn o beth yn gynharach. Yr hyn a ddywedodd yr adolygiad o ddiwydrwydd dyladwy oedd bod y cynllun busnes yn 2013 yn 'wan ac yn anghyson', a bod peryglon cynhenid y busnes newydd yn dal i fod yno. Gadawodd disodli Coilcolor fel prif gyfranddaliwr, a’r golled o’u gwarant, y peryglon a nodwyd yn y bôn fel rhai heb eu lliniaru. Ac roedd y cynnig yn peri i Lywodraeth Cymru gymryd risg landlord sylweddol hefyd. Felly, roedd y prosiect wedi’i nodi fel bod yn risg uchel yn yr asesiad dechreuol, ac wedyn bu asesiad diwygiedig, a wnaeth mewn gwirionedd gynyddu lefel y risg yn hytrach na’i liniaru. Felly, beth sydd wir angen i ni ei wybod yma, a rhoi hynny yng nghyd-destun polisi'r Llywodraeth ar ddefnyddio arian trethdalwyr at ddibenion fel hyn, yw pam y gwrthodwyd yr adroddiad diwydrwydd dyladwy hwnnw, a oedd yn ymddangos, ar yr wyneb, o fod yn fflachio goleuadau coch ac yn canu clychau larwm ar bob agwedd. Beth oedd y cyngor a roddwyd i'r Gweinidog yn ei gynnwys a oedd yn diystyru'r holl rybuddion hynny a oedd i bob golwg yn rhybuddion amlwg iawn?
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau, a hefyd am gydnabod y peryglon cynhenid wrth ddiwallu methiant yn y farchnad cyn belled ag y mae cymorth busnes yn y cwestiwn? Rwyf o’r farn ein bod, o ganlyniad i weithredu'r 10 newid gweithdrefnol sydd wedi eu cydnabod gan Swyddfa Archwilio Cymru, wedi gwella'r system arolygu a gwerthuso a ddefnyddir ar gyfer ceisiadau am gymorth busnes. Nid yw’n wir fod diwydrwydd dyladwy wedi ei wrthod yn llwyr. Ystyriwyd y diwydrwydd dyladwy ochr yn ochr â'r manteision posibl, ac felly gwnaeth y panel buddsoddi argymhelliad ar sail hynny i’r Gweinidog. Ond, fel yr wyf eisoes wedi ei ddweud, derbynnir bod y cyngor a roddwyd gan y panel buddsoddi yn anghywir. Fe wnaethant gamgymeriad, ac mae hynny wedi ei gydnabod gan y gwasanaeth sifil.
Rwy'n credu bod angen i ni fyfyrio ar y cyd-destun—y cyd-destun economaidd—a oedd yn gefndir i’r penderfyniad. Roedd awydd i sicrhau bod gennym dwf economaidd ar adeg pan oeddem newydd ddioddef problemau difrifol a achoswyd gan y chwalfa ariannol, ac felly roedd yr awydd am risg efallai yn fwy nag y byddai heddiw, a ninnau wedi gallu magu twf economaidd dros nifer o flynyddoedd, a gwella cyflogaeth erbyn hyn i lefel agos i’r lefelau uchaf erioed, gostwng cyfraddau diweithdra i lefel is na chyfartaledd DU—yn wir, i’r lefel isaf erioed. A gallwn ddweud gyda hyder erbyn hyn, bod hynny o ganlyniad i gymorth busnes yn ystod tymor y pedwerydd Cynulliad—lle yr wyf yn cydnabod y bu rhai methiannau—o ganlyniad i'r cymorth, gwnaethom sicrhau bod 97.4 y cant o'r busnesau hynny wedi ffynnu ac wedi llwyddo. Mae hynny’n uwch o lawer na’r cyfartaledd ar draws economi Cymru, ac, yn wir, yn well eto na chyfartaledd y DU hyd yn oed.
Onid rhan o'r broblem yw mai gweision sifil yw holl aelodau’r panel buddsoddi sy'n rhoi cyngor i Weinidogion, sy'n atebol i'r un Gweinidog? Ac nid yw hynny felly’n gyfystyr â chyngor annibynnol, yn arbennig felly mewn achosion pryd y gellid ystyried bod gan y Gweinidog farn benodol am brosiect.
Nawr, wrth gwrs, mae gennym y Bwrdd Cynghorol Datblygu Diwydiannol Cymru, a sefydlwyd am yr union reswm hwn, mae’n annibynnol—mewn gwirionedd, pan fydd y Gweinidog yn mynd yn groes i'w gyngor, mae’n rhaid iddo adrodd i'r Cynulliad, fel y gallwn gael tryloywder priodol. ‘Does bosib na ddylid neilltuo pob penderfyniad ar gefnogaeth i fusnes i’r corff annibynnol hwnnw, neu, mewn gwirionedd, os yw'r Gweinidog eisiau mynd ymhellach hyd yn oed, gallai fynd â nhw yn llwyr oddi ar ddwylo'r Gweinidogion a’r gweision sifil, a’u rhoi i'r banc datblygu newydd, a fydd yn ôl pob tebyg, mae'n ymddangos, yn cael ei arwain gan Cyllid Cymru, a ddangosodd, yn yr achos hwn, ei fod â gwell asesiad o'r risg yr oedd hyn yn ei gynrychioli na'i swyddogion ef ei hun. Ac, yn olaf, a gaf i ofyn iddo, oherwydd bod y brif brydles a dderbyniodd Llywodraeth Cymru yn cynrychioli rhwymedigaeth wrth gefn, a gafodd hi ei rhestru yng nghyfrifon cyfunol Llywodraeth Cymru?
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau? Bydd angen i mi wirio manylion y cwestiwn olaf a gododd yr Aelod, a byddaf yn ysgrifennu, nid yn unig at yr Aelod, ond at bob Aelod yn y Siambr.
O ran Bwrdd Cynghorol Datblygu Diwydiannol Cymru, corff noddedig y bu ganddo statws statudol ers 1975 yw hwnnw, neu, yn hytrach, a fu o dan Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975. Ac, fel y bydd yr Aelod yn ymwybodol, y mae'n ystyried penderfyniadau pan wneir cais am grant sydd yn fwy na £1 filiwn. Bu adolygiad o lefel y trothwy. Cafodd hynny ei gynnal, mewn gwirionedd, gan fy rhagflaenydd, a hynny ym mis Ionawr 2013. Rwy'n credu ei bod yn bryd i ni adolygu hynny eto, fel y mae’r Aelod wedi ei awgrymu, ac rwy'n hapus i wneud hynny. O ganlyniad, gan fod trothwy o £1 filiwn, ni chyflwynwyd unrhyw un o'r achosion Kancoat iddo, gan nad oedd y rheini yn rhan o gylch gwaith y bwrdd.
Ond mae'n rhaid i mi ddweud eto bod fy rhagflaenydd wedi cryfhau gweithdrefnau. Yn wir, fe etifeddodd hi adran lle nad oedd unrhyw banel buddsoddi i ystyried yn ofalus, fel gweithdrefn saib ac ystyried. Cyn i’m rhagflaenydd fod yn gyfrifol am y portffolio economaidd, gwnaethpwyd penderfyniadau gan y Gweinidogion i raddau helaeth, ar sail cyngor gan swyddogion, a hynny heb y weithdrefn bwysig ar gyfer saib ac ystyried a gyflwynodd fy rhagflaenydd.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.