Part of the debate – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 14 Chwefror 2017.
Hoffwn ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol. Mae nifer o drigolion Blaenau Gwent yn pryderu am adroddiadau o gynnydd pellach yn y ffioedd a’r taliadau am ddefnyddio meysydd chwaraeon a hamdden yn y fwrdeistref, a hynny ar ben cynnydd blaenorol. Felly, a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar y mater hwn yn fwy cyffredinol, ac yn enwedig ar sut mae cynnydd o'r fath yn cyd-fynd â darpariaethau clodwiw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015?