Part of the debate – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 14 Chwefror 2017.
Diolch i chi, Lywydd. Ym mis Hydref nodais fy ngweledigaeth ar gyfer dull newydd ar gyfer adeiladu cymunedau cryf gan ganolbwyntio ar gyflogaeth, y blynyddoedd cynnar a grymuso. Mae'r uchelgais hon yn deillio o ymrwymiad craidd y Llywodraeth i fuddsoddi yn ffyniant ein cenedl: creu swyddi newydd, gan gynnwys 100,000 o brentisiaethau ar gyfer pob oedran, treialu prosiect newydd Swyddi Gwell, yn nes at Adref, cyflwyno'r cynnig gofal plant mwyaf hael i rieni sy'n gweithio mewn unrhyw le yn y DU, sefydlu tasglu’r Cymoedd, creu metros gogledd a de Cymru, rhoi'r dechrau gorau i blant drwy grant amddifadedd disgyblion estynedig, a hyrwyddo cynhwysiant ariannol.
Lywydd, mae cymunedau cryf yn barod i weithio ac yn gallu gweithio; maen nhw’n cynnig y dechrau gorau mewn bywyd i blant—maent wedi’u grymuso a’u hymgysylltu. Rwy’n awyddus i weld cymunedau diogel a chryf. Ar yr un pryd, nodais fy mod yn bwriadu dirwyn y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf i ben a lansio rhaglen eang o ymgysylltu â rhanddeiliaid allanol. Roedd hyn yn cynnwys arolwg ar-lein a chyfarfodydd gyda phobl a sefydliadau â budd, gan gynnwys cynghorau a byrddau gwasanaethau cyhoeddus. Roedd mwy na 3,000 o ymatebion i'r ymarfer ymgysylltu a hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran.
Roedd yr adborth yn dangos y nifer o ffyrdd y mae Cymunedau yn Gyntaf wedi bod o fudd i unigolion. Hoffwn eto ddiolch i weithlu Cymunedau yn Gyntaf am y gwahaniaeth y maen nhw wedi ei wneud i filoedd o bobl. Roedd yr ymatebwyr yn cydnabod yr angen am newid gan dynnu sylw at ffyrdd y gellid gwella Cymunedau yn Gyntaf. Teimlai nifer sylweddol bod angen diwygio pellgyrhaeddol. Mae'r ymarfer ymgysylltu wedi amlygu cefnogaeth eang ar gyfer cymunedau cryf a dull newydd yn canolbwyntio ar gyflogaeth, y blynyddoedd cynnar a grymuso. Hefyd, pwysleisiodd rhanddeiliaid bwysigrwydd ymyrraeth gynnar fel egwyddor sylfaenol a ddylai fod yn sail ar gyfer ein dull o ddatblygu cryfder. Lywydd, yng ngoleuni'r adborth, rwyf wedi ystyried eto y dewisiadau ar gyfer Cymunedau yn Gyntaf ac wedi dod i'r casgliad y dylid ei ddirwyn i ben.
Rwy’n cydnabod y gefnogaeth ar gyfer Cymunedau yn Gyntaf a leisiwyd gan y rhai hynny sy'n gweithio ar y rhaglen neu sydd wedi elwa arni. Fodd bynnag, wrth wneud fy mhenderfyniad, rwyf hefyd wedi ystyried amrywiaeth o ymatebion a ffactorau eraill. Mae dull Llywodraeth Cymru o sicrhau ffyniant i bawb, a’r cyd-destunau o ran polisi, deddfwriaeth ac arian y mae Cymunedau yn Gyntaf yn gweithredu oddi mewn iddynt, wedi newid yn sylfaenol. Mae unigolion yn amlwg wedi cael budd o Gymunedau yn Gyntaf ond, fel y mae Sefydliad Bevan yn ei amlygu, mae perfformiad wedi bod yn gymysg ac mae tlodi yn parhau i fod yn her ystyfnig a pharhaus. Ni all un rhaglen unigol fynd i'r afael â thlodi. Mae arnom angen dull cyfannol sy'n cynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol ac aelodau’r byrddau gwasanaethau cyhoeddus.
Rwy’n ymwybodol o’r effaith bosibl ar unigolion a chymunedau. Felly, byddaf yn mabwysiadu dull gofalus wrth fwrw ymlaen, gan geisio cadw rhai o'r agweddau mwyaf effeithiol ar y gwaith a wnaethpwyd gan Cymunedau yn Gyntaf. Byddaf yn sicrhau bod gan y prif gyrff cyflenwi ddigon o amser ac adnoddau i gynllunio'r pontio. Ac felly, rwyf wedi penderfynu y bydd cyllid, ar 70 y cant o'r lefelau presennol, yn cael ei ddarparu hyd at fis Mawrth 2018. Byddaf yn sefydlu cronfa etifeddiaeth gwerth £6 miliwn, i'w chyflwyno ym mis Ebrill 2018 a fydd yn galluogi awdurdodau lleol, mewn ymgynghoriad â chymunedau a byrddau gwasanaethau cyhoeddus, i gynnal rhai o'r asedau cymunedol neu’r ymyraethau mwyaf effeithiol a ddatblygwyd gan Cymunedau yn Gyntaf.
Rwy’n gwybod pa mor bwysig yw’r adeiladau cymunedol, hefyd. Felly, byddaf yn darparu £4 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol ar gyfer y rhaglen cyfleusterau cymunedol yn 2017-18 ac yn y blynyddoedd i ddod, gan roi blaenoriaeth i ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf o fewn y rhaglen honno, er mwyn helpu i ddiogelu asedau cymunedol gwerthfawr lle y gallai adnewyddu neu addasu helpu i ddarparu dyfodol cynaliadwy.
Rydym yn glir fel Llywodraeth fod yn rhaid inni bontio i gyfnod newydd yn awr yn ein brwydr yn erbyn tlodi yng Nghymru. Ni fydd ein hymyraethau—ein cymorth ar gyfer y rhai hynny sydd fwyaf ei angen—yn dod i ben â’r rhaglen hon. Yn wir, ein nod yw dwysáu ein hymdrechion er mwyn rhoi i bobl yr offer sydd eu hangen arnynt i gael cyfran fwy cyfartal o ffyniant y genedl. Mae’n rhaid i’r addewid o gyflawni gwaith da a diogel fod wrth wraidd hyn. Felly, wrth gynnal yr etifeddiaeth werthfawr o ganlyniad i Cymunedau yn Gyntaf, rwyf am fwrw ymlaen â'n dull newydd tuag at gymunedau cryf.
Gan atgyfnerthu fy ymrwymiad i sicrhau cyflogaeth, rwyf eisoes wedi cyhoeddi estyniad dwy raglen allweddol, sef Cymunedau am Waith a Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth—y rhaglen PaCE. Nawr, rwy’n dymuno mynd ymhellach er mwyn helpu i greu Cymru fwy ffyniannus, diogel a chyfartal. Wrth i ni ddatblygu ein cynllun cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru ehangach, dan arweiniad y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, gallwn ddatblygu seilwaith newydd i gefnogi'r rhai hynny sydd bellaf i ffwrdd o'r farchnad lafur, i gael gwaith.
Lywydd, o fis Ebrill 2018 ymlaen byddaf yn cyflwyno grant i ddatblygu’r seilwaith hwn, gan adeiladu ar lwyddiant Cymunedau am Waith ac Esgyn. Byddaf yn darparu bron i £12 miliwn y flwyddyn i alluogi cynghorau i wella cefnogaeth sy'n canolbwyntio ar y bobl hynny sy’n aml yn wynebu rhwystrau cymhleth ac sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur. Bydd hefyd yn caniatáu i’r cymorth hwn fynd y tu hwnt i’r ffiniau daearyddol pendant a nodir gan Cymunedau yn Gyntaf, sydd ar hyn o bryd yn cyfyngu ar gyrhaeddiad gwasanaethau o'r fath. Mae fy swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda'r rhai sy'n arwain ar y cynllun cyflogadwyedd ehangach. Bydd gwella ac ehangu cymorth cyflogaeth yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig yn rhan bwysig o'r cynnig cyflogaeth ehangach.
Lywydd, mae buddsoddi yn ein plant yn fuddsoddiad ar gyfer y tymor hir. Dyma'r dull mwyaf cynaliadwy o adeiladu dyfodol mwy llewyrchus. Rwyf wedi fy nghalonogi gan yr ymatebion cadarnhaol iawn a gafwyd hyd yn hyn i’r gwaith o ddatblygu parthau plant. Byddwn yn ei gyflwyno, ar y cyd â phartneriaid, er mwyn gweithio gyda chymuned benodol mewn ffordd strategol i wella cyfleoedd bywyd ar gyfer plant a phobl ifanc. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad pellach ar y camau nesaf o ran datblygu parthau plant.
Ynghyd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, rwyf hefyd wedi cyhoeddi y bydd canolfan ACE yn cael ei sefydlu i helpu sefydliadau, cymunedau ac unigolion ledled Cymru i fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, a all gael effaith mor ddinistriol ar gyfleoedd bywyd i blant. Byddaf yn parhau i gefnogi GemauStryd wrth ddatblygu ffyrdd arloesol o gynnwys ein pobl ifanc mewn gweithgareddau cadarnhaol. Bydd y mentrau hyn, ynghyd â'n buddsoddiad parhaus yn rhaglenni llwyddiannus Dechrau’n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf, yn sicrhau bod cefnogaeth gynhwysfawr i blant wrth iddynt dyfu’n oedolion.
Mae sicrhau bod pobl yn gwybod beth yw eu hawliau a manteisio arnyn nhw, yn hanfodol wrth adeiladu cymunedau wedi'u grymuso. Dyna pam, ac at y diben hwnnw, y byddaf yn parhau i gefnogi Cyngor ar Bopeth Cymru â’r gwaith hanfodol bwysig y mae’n ei wneud, gan helpu i feithrin cryfder wrth wynebu newidiadau o ran diwygio lles. Mae'r diwygiadau a gynigir gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i gryfhau democratiaeth leol a swyddogaeth cynghorwyr lleol a chefnogi cynghorau cymuned a chynghorau tref mwy effeithiol yn hanfodol wrth ddatblygu’r gwaith o rymuso cymunedau.