5. 4. Datganiad: Cymunedau Cryf — Camau Nesaf

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 14 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 3:25, 14 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Mae datganiad heddiw yn nodi’r cam diweddaraf o ran bwriad y Llywodraeth Lafur o ddirwyn Cymunedau yn Gyntaf i ben, a ddisgrifiwyd unwaith fel rhaglen wrthdlodi flaenllaw. Rwy’n rhannu'r siom a deimlir gan lawer ynghylch y diffyg cynnydd o ran lleihau tlodi yng Nghymru, a hoffwn ychwanegu diolch Plaid Cymru i'r gweithlu presennol. Mae Cymunedau yn Gyntaf wedi bod yn destun cryn ddadlau. Yn bersonol, rwyf wedi bod yn feirniadol iawn o anallu’r rhaglen i gyflawni ei hamcanion gwreiddiol, neu hyd yn oed i geisio mesur ei llwyddiant, neu fel arall. Ond nid wyf yn dymuno gweld yr elfennau da, nac yn wir yr egwyddor o gael rhaglen wrthdlodi, yn diflannu. Nawr, mae Ysgrifennydd y Cabinet ei hun wedi cyhuddo Plaid Cymru o beryglu’r rhaglen hon dros nifer o flynyddoedd. Ym mis Ebrill 2011, nododd nad oedd y cynllun, ac rwy’n dyfynnu, ond yn ddiogel dan reolaeth Llafur, ac o dan reolaeth Plaid Cymru, dyfynnaf eto, gallwn ddweud ffarwel wrth y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf sydd wedi helpu cymaint o ardaloedd difreintiedig i ddod allan o dlodi.

Nid oes yr un o'r datganiadau hynny yn wir; sbin llwyr oedden nhw, ac nawr rydym yn gweld mai Llywodraeth Lafur sy'n dirwyn Cymunedau yn Gyntaf i ben. Yn anffodus, nid oedd ail ran datganiad y Gweinidog yn 2011 yn gywir ychwaith: nid yw'r rhaglen wedi codi digon o bobl allan o dlodi. Nid oedd ganddi ddigon o adnoddau na phwyslais. Nid oedd yn mynd ati i ganolbwyntio ar flaenoriaethau cymunedau, ac ni chafodd graddfa na chwmpas Cymunedau yn Gyntaf fyth eu hesbonio i'r cymunedau hynny mewn ffordd onest.

Mae bron chwarter y bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi. Mae'r ffigur hwnnw yn codi i draean bron pan fyddwn yn sôn am blant. Os na lwyddodd y rhaglen wrthdlodi hon, yna mae’n rhaid gofyn y cwestiwn, 'Beth yr ydym ni am ei wneud yn hytrach?' Nid yw problemau tlodi nac anfantais wedi diflannu. Yn y datganiad heddiw, ni nodir unrhyw gynllun digonol arall ar gyfer ei weithredu, ac a dweud y gwir, mae hynny'n hollol warthus.

Ni fydd y gronfa etifeddiaeth ar gyfer byrddau gwasanaethau cyhoeddus, sef dim ond £6 miliwn, yn gwneud unrhyw wahaniaeth i faterion tlodi sydd wedi gwreiddio’n ddwfn yn ein cymunedau. Croesewir yr arian ychwanegol ar gyfer cyfleusterau cymunedol, ond bydd yn cael ei ddyrannu’n denau iawn. Beth ddigwyddodd i'ch egwyddor o dargedu? Yn syml, nid yw £12 miliwn yn ychwanegol ar gyfer sgiliau o 2018 ymlaen yn ddigon. Ni fydd yn cyrraedd digon o bobl. Nid oes dim o hyn yn cyfateb i raglen wrthdlodi i gymryd lle Cymunedau yn Gyntaf, ac o ystyried ein bod yn sôn am rai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yn yr holl Undeb Ewropeaidd—cymunedau sydd mewn perygl o golli’r cyllid ychwanegol y maen nhw’n ei gael ar hyn o bryd gan yr UE am eu bod mor dlawd—nawr rydych chi eisiau cymryd yr arian hwn oddi arnyn nhw hefyd.

Nid oes dim byd, dim byd o gwbl, yn y datganiad hwn heddiw yn dangos y brys sydd ei angen arnom i fynd i'r afael â thlodi yn y wlad hon. Nid yw’n ddigon uchelgeisiol, ac ni cheir digon o fuddsoddiad na chyllid newydd. Wrth gwrs, mae gennym ddigon o eiriau allweddol—union yr un geiriau allweddol y mae pobl yn ein cymunedau tlotaf wedi eu clywed ers blynyddoedd. Wel, gadewch i mi ddweud rhywbeth wrthych chi, Ysgrifennydd y Cabinet: mae pobl wedi cael digon ar y geiriau allweddol hynny, ac maen nhw wedi cael digon ar gael eu siomi gan y Llywodraeth hon. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gydnabod mai’r unig beth y mae wedi ei wneud yn y datganiad hwn yw rhestru nifer o gynlluniau sydd eisoes yn digwydd, ac a wnaiff ef egluro pa un a geir arbediad cyllidebol o ganlyniad i ddirwyn Cymunedau yn Gyntaf i ben, ac os felly, faint? A wnaiff ef ymrwymo heddiw i ailfuddsoddi yr holl arian sy’n cael ei wario ar y rhaglen ar hyn o bryd, ac, yn olaf, a wnaiff ef dderbyn mai’r hyn y mae'n ei wneud â’i ddatganiad yw tanseilio ein cymunedau tlotaf, gan roi ychydig iawn, neu ddim sicrwydd i ni, y bydd ffordd arall o ganolbwyntio ar dlodi a mynd i'r afael ag ef? Rydych chi’n troi eich cefn ar ein cymunedau tlotaf. Onid yw hynny’n wir, Ysgrifennydd y Cabinet?