Part of the debate – Senedd Cymru am 4:06 pm ar 14 Chwefror 2017.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n credu y dylai pob person ifanc, waeth beth yw ei gefndir, gael y cyfle i ddatblygu ei ddoniau a'i sgiliau drwy gerddoriaeth. Rwy'n falch, ochr yn ochr ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, ein bod yn cyhoeddi gwerth £1 miliwn o fuddsoddiad i gefnogi sefydlu gwaddol cenedlaethol ar gyfer cerddoriaeth. Bydd cyfraniad cychwynnol yn cael ei ddarparu i Gyngor Celfyddydau Cymru i dalu am y costau sefydlu. Yna bydd cyfraniad pellach yn cael ei wneud i gronfa gychwynnol y gwaddol unwaith y bydd wedi’i sefydlu, gan gymryd y cyfanswm i £1 filiwn.
Mae'r gwaith hwn yn cynrychioli’r dull cydgysylltiedig yr ydym yn ei gymryd i sicrhau bod cyfleoedd cerddoriaeth yn dal i fod ar gael i bob person ifanc, ac yn cael eu gwella yn y dyfodol. Dros yr wythnosau nesaf, bydd cyngor y celfyddydau yn dechrau'r broses o sefydlu'r gwaddol, gan gynnwys ymgynnull grŵp llywio i lywio’r cwmpas, y defnydd a’r amseriadau ar gyfer gweithredu’r gronfa hon yn y pen draw. Bydd adeiladu’r gronfa i lefel lle bydd y llog blynyddol yn ddigonol i wneud grantiau, wrth gwrs, yn cymryd peth amser. Bydd yn dibynnu ar ddenu cyfraniadau gan amrywiaeth o ffynonellau cyhoeddus a phreifat. Mae hon, felly, yn fenter ar gyfer y tymor canolig a'r tymor hir.
Ddirprwy Lywydd, rydym yn genedl sydd â threftadaeth gerddorol gyfoethog. Pe baech yn gofyn i bobl ar draws y byd i enwi’r pethau y maent yn eu cysylltu â Chymru, byddai eu rhestr yn ddi-os yn cynnwys cerddoriaeth. O'n corau traddodiadol i gerddorion sy'n perfformio ar draws y byd, mae Cymru yn wirioneddol yn gwneud yn well na'r disgwyl. Er hynny, wrth gwrs, rhaid inni ochel rhag edrych ar ein treftadaeth gerddorol fel ystrydeb; mae ein hetifeddiaeth, i atseinio i lawr y cenedlaethau, yn un o amrywiaeth a bywiogrwydd: cerddoriaeth arbrofol John Cale; gwreiddioldeb y Super Furry Animals; hygyrchedd Ivor Novello; neu foderniaeth Kizzy Crawford a Marina and the Diamonds.
Ond eto i gyd, nid yw hyfforddiant cerddoriaeth yn ymwneud â pherfformiad yn unig. Mae'n hyrwyddo ystod o ganlyniadau cadarnhaol sy'n cefnogi'r pedwar diben wrth graidd ein cwricwlwm newydd a fydd yn codi safonau yn ein hysgolion. Rydym yn awyddus i'n pobl ifanc dyfu'n unigolion iach, hyderus, yn gyfranwyr mentrus, creadigol, yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog ac yn ddinasyddion moesegol, gwybodus. Mae dysgu i ganu neu chwarae offeryn cerdd yn helpu ein plant i feithrin disgyblaeth a dyfalbarhad. Mae'n dysgu mai arfer yn wir yw’r unig athro ac mae'n helpu plant i fagu hyder a darganfod beth sy'n eu hysbrydoli.
Rydym i gyd am gael system addysg sy'n rhoi cyfle i ddysgwyr gymryd rhan yn y profiadau gwerthfawr hyn. Drwy ehangu ac ymestyn y grant amddifadedd disgyblion, mae ysgolion yn cael eu paratoi'n well i ddarparu profiadau cerddorol i'w dysgwyr, sy'n arbennig o bwysig i lawer o’r plant hynny na fyddent o bosibl yn gallu fforddio cymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol.
Mae hyn yn ategu amcanion y cynllun 'Dysgu creadigol drwy'r celfyddydau', rhaglen ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a chyngor y celfyddydau sy’n buddsoddi £20 miliwn mewn ysgolion i hyrwyddo a chefnogi addysgu a dysgu creadigol. Mae'r rhaglen hon hefyd yn cefnogi ysgolion i ddatblygu arfer a fydd yn cyfrannu at y cwricwlwm newydd, gan helpu ein pobl ifanc i ddatblygu i fod yn gyfranwyr mentrus, creadigol.