Part of the debate – Senedd Cymru am 4:11 pm ar 14 Chwefror 2017.
A gaf i ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad? Yn amlwg, mae e’n rhywbeth rŷm ni yn barod iawn i’w gefnogi o safbwynt creu y gronfa neu’r gwaddol cenedlaethol yma. Fel rŷch chi’n ei ddweud, mae cerddoriaeth yn gallu rhoi profiadau mynegiadol i bobl ifanc. Mae’n gallu rhoi profiad o ymbweru iddyn nhw hefyd. Mae e yn sicr yn cryfhau hyder a hunan-barch unigolion, ac mae yna fudd, fel rŷch chi wedi ei gydnabod, nid yn unig yn addysgiadol ond o safbwynt lles ac, wrth gwrs, mae’n elfen bwysig hefyd, yn fy marn i, pan fydd hi’n dod i gryfhau iechyd meddwl, ac yn y blaen ac yn y blaen. Felly, rydw i’n croesawu’n fawr y ffaith bod y symudiad yma yn digwydd a bod y datganiad yma—er ei fod wedi cael ei wneud yn gyhoeddus cyn heddiw, wrth gwrs—yn cael ei wneud y prynhawn yma.
Jest ychydig o gwestiynau, efallai, ynglŷn â’r trefniadau ymarferol. Rydych chi’n dweud bod hon yn fenter ar y cyd gydag Ysgrifennydd yr economi. Rydych chi’n sôn am £1 filiwn. A oes yna gyfraniad ariannol yn dod o adran Ysgrifennydd yr economi, ac os oes, beth yw hwnnw? Ac o ba gyllideb o fewn eich adran chi mae’r cyfraniad yma yn dod hefyd? A ydych chi yn rhagweld y byddwch chi yn cyfrannu yn flynyddol tuag at y gwaddol, neu a ydych chi ddim yn edrych ymhellach na’r £1 miliwn ac yn disgwyl y bydd y gweddill—rydych chi’n sôn am darged o ryw £20 miliwn—yn cael ei gyfrannu gan eraill yn unig? Ac erbyn pryd ydych chi’n disgwyl y bydd yr £20 miliwn yn ei le? Yn amlwg, rydych chi’n disgwyl y bydd hyn yn talu allan erbyn 2020. A fyddwch chi’n disgwyl y bydd yr £20 miliwn yn ei le erbyn hynny?
Nawr, yn amlwg, mae’ch rhagolygon chi ar y tymor canol a’r tymor hir o safbwynt gweld y gwaddol yma yn llawn weithredol, beth bynnag, ond mae yna bwysau, wrth gwrs, heddiw ar nifer o’r gwasanaethau yma. Mi fyddai’n resyn colli llawer o’r ddarpariaeth sydd ar hyn o bryd yn y maes yma tra’n aros i gyrraedd y pwynt lle bydd y gwaddol yma’n weithredol. Felly liciwn i glywed gennych chi beth yw eich bwriadau chi i sicrhau bod y gwasanaethau presennol yn aros yn gynaliadwy yn y cyfamser. Oherwydd o golli yr isadeiledd neu’r seilwaith yna, bydd y dasg o gryfhau gwasanaethau gymaint â hynny yn anoddach.
Nid wyf yn gwybod a ydych chi’n ymwybodol o fenter Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych, lle mae nifer o’r darparwyr, yn wyneb y toriadau sydd wedi cael eu gwneud, wedi dod at ei gilydd i greu menter gydweithredol a fydd yn sicrhau darparu gwasanaethau i ysgolion. Rwy’n meddwl y byddai hwnnw yn fodel y byddai’n dda i chi a’r rhai sy’n ymwneud â’r gwaddol yma i edrych arno, ac efallai y byddwch chi’n gallu dweud wrthym ni ai hynny yw'r math o beth y byddech chi yn awyddus i weld yn cael ei gefnogi gan y gwaddol yma.
Hefyd, mi gyfeirioch chi, tuag at ddiwedd y datganiad, at y tasglu gwasanaethau cerddoriaeth, a bod yna 15 argymhelliad—ac mae hwn yn un ohonyn nhw, sydd bellach yn cael ei weithredu nawr, wrth gwrs. Efallai, nid o reidrwydd fan hyn nawr, y gallwch chi roi diweddariad ysgrifenedig inni ar ryw bwynt o le mae gweddill yr argymhellion arni o safbwynt cynnydd, er mwyn cael bod yn glir ynglŷn â’r gwaith ehangach sy’n digwydd i fynd â’r agenda hon yn ei blaen.