Part of the debate – Senedd Cymru am 4:18 pm ar 14 Chwefror 2017.
A gaf i hefyd ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad hi? Rwy'n credu ei bod yn siomedig, wrth gwrs, fod y cyhoeddiad wedi ei wneud i'r cyfryngau ddoe yn hytrach nag yn y Siambr hon. Ond rydym yn cael datganiad heddiw, ac o leiaf mae hynny’n gyfle i ofyn rhai cwestiynau i chi am y cynlluniau a gyhoeddwyd gennych chi. Rwy’n dymuno croesawu sefydlu’r gwaddol. Mae'n argymhelliad allweddol sydd wedi cael ei ddwyn ymlaen, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn rhoi ar gofnod heddiw y ffaith ein bod, yn aml iawn, yn sôn llawer am y pynciau STEM—rydym yn siarad am fathemateg, rydym yn siarad am Saesneg, rydym yn siarad am wyddoniaeth, rydym yn siarad am y Gymraeg—ond gwae ni os ydym yn anwybyddu'r celfyddydau. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gwneud mwy ar gyfer y celfyddydau yma yng Nghymru, a dyna pam yr wyf yn awyddus i’r gronfa waddol hon fod yn llwyddiant a’i bod yn tyfu. Tybed pa drafodaethau yr ydych chi wedi'u cael gyda ffynonellau dyngarol posibl i ehangu'r gronfa hon yn gyflym, fel y gall ddechrau cael rhywfaint o arian allan o'r drws ac i mewn i bocedi pobl, er mwyn eu cynorthwyo yn natblygiad y celfyddydau yn eu bywydau eu hunain.
Rwy’n meddwl, hefyd, fy mod braidd yn siomedig, neu’n ddryslyd o bosibl, ynghylch amseriad y cyhoeddiad, oherwydd gwaith parhaus y pwyllgor, sy'n edrych ar rai o’r agweddau ar ddarpariaeth cerddoriaeth ar hyn o bryd. Ac rwy’n meddwl, os ydym yn mynd i weld rhyw fath o weithio cydgysylltiedig yn y Cynulliad hwn rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a'r Llywodraeth, mae'n bwysig, weithiau, bod Gweinidogion yn dal yn ôl rhag gwneud cyhoeddiadau pan fo trafodaethau defnyddiol o ddifrif eisoes yn digwydd. Nodais, dim ond ychydig wythnosau yn ôl, yn y pwyllgor diwylliant, bod y Dr Owain Arwel Hughes yn sôn am gerddoriaeth, ac roedd yn dweud ein bod yn wynebu argyfwng ar hyn o bryd yma yng Nghymru, a bod angen buddsoddiad os ydym yn mynd i gyflwyno'r math o lwyddiant y crybwyllwyd gennych yr ydym wedi’i gael yn hanesyddol. Ydych chi'n cytuno â dadansoddiad Owain Arwel Hughes ein bod mewn tipyn o argyfwng pan ddaw at addysg gerddorol yng Nghymru? Nodais fod y nifer o fyfyrwyr sy'n cymryd cerddoriaeth ar lefel TGAU a Safon Uwch, er enghraifft, yn awgrymu bod llai yn eistedd arholiadau cerddoriaeth. Rydym wedi gweld gostyngiad o 25 y cant yn y rhai sy'n cymryd cerddoriaeth at lefel TGAU, a gostyngiad o 35 cant yn cymryd cerddoriaeth at Safon Uwch. A yw hynny’n bryder i Ysgrifennydd y Cabinet, a pha gamau penodol y byddwch yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r dirywiad yr ydym wedi’i weld yn nifer y rhai sy'n cymryd cerddoriaeth ar lefel TGAU ac i Safon Uwch?
A wnewch chi ddweud wrthym hefyd, o ran bwrw ymlaen â’r argymhellion hynny gan y grŵp gorchwyl a gorffen, y soniasoch amdanynt yn eich ymateb i Llŷr bod llawer o'r argymhellion hynny yn gyfrifoldeb llywodraeth leol. Rwy’n gwerthfawrogi ac yn deall mai dyna oedd y sefyllfa, ond, fel sydd wedi digwydd cynifer o weithiau yma yn y Cynulliad Cenedlaethol, yn aml mae'n cymryd arweiniad gan Lywodraeth Cymru i wireddu’r pethau hynny, hyd yn oed pan wneir argymhellion i 22 o awdurdodau lleol gwahanol, a phob un ohonynt, yn aml iawn, gyda gwahanol ddulliau o wneud pethau. Felly, tybed, a ydych yn mynd i ddangos rhywfaint o arweiniad ar hyn, nid yn unig o ran sefydlu’r gronfa hon, ond o ran datblygu eich swyddogaeth fel arweinydd ar addysg ar draws Cymru i wneud yn siŵr nad yw cerddoriaeth yn cael ei hesgeuluso yn y dyfodol? A pha drafodaeth a gawsoch gyda’r Athro Donaldson i sicrhau bod cerddoriaeth yn rhan o’r cwricwlwm newydd sy'n cael ei ddatblygu? Nid yw gwaith yr ysgolion arloesol wedi bod yn rhywbeth yr wyf wedi clywed llawer amdano, er enghraifft, ond rwy'n siŵr bod gwaith yn mynd yn ei flaen ac efallai y gallwch ddweud ychydig am hynny wrthym.
Byddwch yn gwybod hefyd bod ymchwiliad y pwyllgor diwylliant wedi bod yn edrych ar enghreifftiau o ddarpariaeth addysg cerddoriaeth yn yr Alban a Lloegr. Yn y ddwy wlad hyn, bu elfen o neilltuo’r cyllid sydd ar gael i awdurdodau addysg lleol, a bu rhywfaint o arloesedd yn y ffordd y mae offerynnau cerdd wedi'u caffael a bod gwasanaethau eraill wedi eu darparu trwy ganolfannau yn dod at ei gilydd. Tybed pa drafodaeth yr ydych wedi'i chael gyda chydweithwyr, neu efallai y mae eich swyddogion wedi'i chael gyda chydweithwyr, dros y ffin yn Lloegr ac yn yr Alban, am y trefniadau hynny a'r hyn a allai fod yn ddefnyddiol i Gymru ddysgu ganddynt. A allwch chi ddweud wrthym hefyd beth fyddai swyddogaeth y consortia rhanbarthol wrth gyflwyno gwelliannau mewn addysg cerddoriaeth a mynediad at addysg cerddoriaeth yn y dyfodol? Ni chlywais unrhyw gyfeiriad at y consortia rhanbarthol o gwbl yn eich datganiad, ac rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn deall beth allai eu swyddogaeth fod mewn trefniadau yn y dyfodol. Felly, efallai y gallwch rannu ychydig o’ch syniadau am hynny. Diolch.