Part of the debate – Senedd Cymru am 4:33 pm ar 14 Chwefror 2017.
Diolch i chi, Michelle, am eich cwestiynau. O ran dyngarwch—ac rwy’n meddwl mai Darren a gododd hyn hefyd, ac mae bai arna i am beidio â mynd i'r afael â hynny—mae llawer iawn o waith wedi ei wneud, ar y cyd â chyngor y celfyddydau, yn edrych ar gyfleoedd. Mae'n rhaid i ni wella o ran dyngarwch. Mae llawer o sefydliadau ac unigolion y gallwn fod yn edrych arnynt i gefnogi'r gwaith hwn. Mae'n rhaid i ni wella fel cenedl. Gobeithio, drwy greu’r cyfle hwn, y bydd yn gyfle hawdd i bobl wneud hynny. Ond bydd sefydlu grŵp llywio gan gyngor y celfyddydau yn golygu y bydd pobl sydd â chymwysterau arbennig yn y maes arbennig hwn ar gael i roi cyngor am sut y gallwn wneud y gorau o'r cyfleoedd hyn. Ni fyddwn yn honni bod yn arbenigwr yn y maes hwn, a holl bwynt cael grŵp llywio yw y gallwn ddibynnu ar bobl sydd yn gwybod sut i wneud hyn i fod yn rhan o'r grŵp hwnnw i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd y gronfa i fod yn llwyddiannus. Po gyflymaf y gallwn ddod o hyd iddynt, y cyflymaf y gallwn gael arian allan trwy’r drws i gefnogi’r gwaith yr ydych chi a minnau yn awyddus i’w weld yn ein cymunedau.
Mae dysgu creadigol trwy'r celfyddydau, fel y dywedasoch, yn rhaglen sy’n werth £20 miliwn. Nid ydym yn pennu bod yn rhaid ei wario ar gerddoriaeth. Mae'n rhaglen gelfyddydol gyffredinol ac mae'n cael ei harwain i raddau helaeth gan yr ysgolion unigol. Felly, er enghraifft, mae gan y rhaglen nifer o themâu gwahanol. Rydym wedi siarad am ymarferwyr arweiniol yn ymweld ag ysgolion. Unwaith eto, mae hynny'n ddewis i’r ysgol unigol, nid yn fater i mi ei bennu. Mae yma hefyd elfen o ewch a gweld. Felly, os yw pobl mewn gwirionedd yn awyddus i fynd i weld cynhyrchiad byw, boed hynny'n ddrama, yn gerddoriaeth, neu os ydynt yn dymuno mynd â’u plant i oriel gelf, mae elfen o ewch a gweld yn perthyn i hyn. Felly, gall ysgolion unigol, yr athrawon, ddod o hyd i’r hyn y maent yn teimlo sydd o fudd mwyaf i'w disgyblion, a gallant wneud cais i gyngor y celfyddydau am grant fel y gall pobl mewn gwirionedd fynd i weld rhywbeth eu hunain a chael eu hysbrydoli, gobeithio, gan yr hyn y maent yn ei weld a mynd â hynny yn ôl i'r ystafell ddosbarth.
Mae cerddoriaeth yn y gymuned mewn gwirionedd yn dod dan nawdd fy nghydweithiwr Ken Skates, Ond rydych yn llygad eich lle. Mae angen inni roi i’r plant yr hyder a’r cariad at gerddoriaeth fel nad yw’n rhywbeth y maent yn ei wneud yn ystod amser ysgol yn unig, ond yn rhywbeth y maent yn ei wneud y tu allan i'r ysgol hefyd. Dyna pam mae sefydliadau fel y rhai a ddisgrifiwyd gan Llŷr, Cerddoriaeth Ieuenctid De Powys, yn cynnal cyngherddau gwych, sy’n cynnwys y disgyblion ieuengaf oll a’r rheini sydd ar fin mynd i'r brifysgol—. Ond hefyd rydych yn ei weld yn digwydd mewn ffyrdd annisgwyl. Yr wythnos ddiwethaf cynhaliwyd gŵyl ddrama flynyddol Ffederasiwn Brycheiniog o Glybiau Ffermwyr Ifanc, bob nos am wythnos—a’r wythnos hon mae'n ŵyl ddrama Maesyfed—bob nos, yr wythnos ddiwethaf ar lwyfan yn Aberhonddu a'r wythnos hon ar lwyfan yn Llandrindod, bydd gennym bobl ifanc yn canu, dawnsio, chwarae offerynnau cerdd ac yn falch iawn o hynny, ac rwy'n credu bod honno'n un o'r heriau mawr.
Bydd wastad carfan o blant sy'n angerddol iawn am eu cerddoriaeth ac eisiau perfformio ar lwyfan. Ond beth ydym ni’n ei wneud mewn gwirionedd gyda phobl ifanc sydd ychydig yn swil ac yn cyrraedd yr oedran hwnnw pan fyddant am roi’r gorau i’w cerddoriaeth am nad yw'n cael ei ystyried yn rhywbeth cŵl bellach? Ac rwy’n gwybod, oherwydd mae gen i un yn fy nheulu fy hun. Y rhwystredigaeth o gyrraedd gradd 5 gyda’r ffliwt a’r ffidil ac yna, yn sydyn, 'Dyw e ddim yn cŵl, dwi ddim am gael fy ngweld yn gwneud hynny mwyach.' Felly mae gwaith i'w wneud i ennyn brwdfrydedd y plant , a dyna pam mae angen i'r gronfa hon ac addysg cerddoriaeth fod yn addysg cerddoriaeth gyffredinol, ac nid ymwneud â cherddoriaeth glasurol yn unig, ond mynd i'r afael mewn gwirionedd â cherddoriaeth mewn ffordd sy'n berthnasol i blant a’u gwneud yn awyddus i gymryd rhan.
O ran addysgu, rydych chi'n iawn, rydym yn darparu cyrsiau ar TAR, a byddwch yn gwybod ein bod yn adolygu ein holl gymhellion a'r modd yr ydym yn recriwtio i'r cwrs hwnnw. Nid yw’r ffigurau ar gyfer cerddoriaeth gen i o fy mlaen, ond gallaf ddweud wrthych fod ceisiadau am gyrsiau TAR yn uwch eleni nag oeddent y llynedd—yn gyffredinol ac yn y rhan fwyaf o bynciau, ac mae hynny'n galonogol.