Part of the debate – Senedd Cymru am 5:43 pm ar 14 Chwefror 2017.
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod am ildio. Un o’r buddion eraill, wrth gwrs, y mae’r mathau hyn o gynlluniau’n gallu eu darparu yw budd o ran amddiffyn rhag llifogydd. Wrth gwrs, ar arfordir y gogledd mae yna gyfle i ddatblygu morlyn llanw i ddiogelu Bae Colwyn, Conwy a rhannau o arfordir Sir Ddinbych. A ydych chi’n cytuno â mi bod y math hwnnw o gyfle, oherwydd y gallai sicrhau buddion posibl o ran amddiffyn rhag llifogydd, yn golygu y gallai Llywodraeth Cymru o bosibl gymryd rhan yn ariannol yn y broses o gyflwyno’r prosiect hwn er mwyn gwneud iddo ddigwydd?