QNR – Senedd Cymru ar 14 Chwefror 2017.
The Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Bill, currently being considered by the Assembly, will replace outdated legislation and improve the support for all learners with ALN up to the age of 25. We have announced £20 million funding to support the successful implementation and delivery of the new system.
Rydym yn parhau i gefnogi busnesau’r canolbarth a’r gorllewin drwy gynnig amrywiaeth o gymorth, drwy fuddsoddi yn y seilwaith a thrwy gymryd camau sy’n gwella amodau busnes.
Parthed effaith sefydlu corff ymchwil ac arloesi i’r Deyrnas Unedig, cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth a’r prif gynghorydd gwyddonol â’r Gweinidog cyfrifol yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud cais i Gymru gael ei chynrychioli’n llawn ar fwrdd ymchwil ac arloesi’r DU. Maen nhw wedi ategu’r un pwynt wrth gadeirydd dros dro’r corff, Syr John Kingman. Dim ond yn ddiweddar iawn y dechreuwyd trafodaethau gyda’r prifysgolion ynghylch cyswllt â’r corff.
I welcome the positive impact of incubators and open space for entrepreneurs. As a Government we remain committed to the vital importance of innovation-driven entrepreneurship and appreciate the importance of providing space, community and support for aspiring entrepreneurs.
Mater gweithredol i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yw penderfynu ar drefn y canolfannau cyswllt clinigol. Rwy’n deall bod yr ymddiriedolaeth wedi dechrau ar broses drafod gyda’r staff i ystyried opsiynau ar gyfer trefn y gwasanaethau yn y gorllewin yn y dyfodol. Nid oes penderfyniad wedi’i wneud eto.
Ein blaenoriaeth yw darparu gwasanaethau iechyd sy’n cynnig y canlyniadau gorau posibl i gleifion yn y gorllewin. Byddwn yn dilyn y dystiolaeth a’r cyngor clinigol gorau, diweddaraf, er mwyn darparu’r gofal o ansawdd uchel y mae pobl y gorllewin yn ei haeddu.
Mae’n strategaeth ddŵr i Gymru yn gosod trywydd ein polisi yn y tymor hir ar gyfer dŵr yng Nghymru. Mae Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, yn cyfarfod yn rheolaidd â rhanddeiliaid ar draws diwydiant dŵr Cymru i drafod pob agwedd o’r gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth.