Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 15 Chwefror 2017.
Diolch. Yr wythnos diwethaf, bûm yn cadeirio grŵp trawsbleidiol ar fentrau bach a chanolig eu maint, a’r siaradwr gwadd oedd yr Athro Karel Williams o Brifysgol Manceinion. Crybwyllodd y cysyniad o ddinas-ranbarth a chyfeiriodd yn benodol at Fanceinion Fwyaf, a dywedodd, er ei fod yn gweithio fel cysyniad mewn sawl ffordd, y buasai’n werth i Gymru ddysgu o rai o’r problemau y maent wedi’u cael yno. Yn bennaf ymhlith y rhain oedd y ffaith fod economi canol dinas Manceinion yn llawer cryfach ac yn fwy llewyrchus na’r trefi lloeren pellaf. Rwy’n credu yn y fargen ddinesig, ond rwyf hefyd yn credu bod angen i ni wneud yn siŵr ei bod o fudd i gymunedau’r Cymoedd gogleddol, ac i mi, mae hynny’n golygu y trefi a’r pentrefi nad ydynt yn ymddangos ar arwyddbyst ar yr M4 neu’r A465. Nid yw’r ardaloedd hyn wedi elwa o fuddsoddiad cyhoeddus neu breifat ar yr un raddfa ag a welir ar goridor yr M4 a Blaenau’r Cymoedd, ac felly, sut y bydd bargen ddinesig priddinas-ranbarth Caerdydd yn sicrhau eu bod yn gwneud hynny yn y dyfodol?