<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 15 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 1:42, 15 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae eich Papur Gwyn ar ddiwygio llywodraeth leol yn gwyro’n sylweddol oddi wrth y cynigion a amlinellwyd yn y Bil drafft blaenorol drwy fod 24 cynnig o’r fath naill ai wedi’u hepgor, a 13 wedi’u diwygio. Byddai rhai o’r rhain wedi caniatáu mecanweithiau adrodd a fuasai’n galluogi etholwyr i fod yn llawer mwy gwybodus, ac yn llawer mwy abl hefyd i ddwyn eu haelodau etholedig i gyfrif. Nawr, rydym yn cefnogi’n fawr y cynigion i arweinwyr cynghorau gynnal cyfarfod cyhoeddus blynyddol ac i gynghorwyr etholedig gynhyrchu adroddiad blynyddol, ac eto rydych yn awr yn ystyried bod y rhain yn rhy anhyblyg. Roedd Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, a roddwyd ar waith gan eich Llywodraeth, yn cefnogi’r canllawiau hyn ar gyfer sicrhau atebolrwydd democrataidd o’r fath. Pam rydych yn ei wrthod yn awr?