Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 15 Chwefror 2017.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’r Papur Gwyn hefyd yn cynnig adeiladu ar drefniadau rhanbarthol presennol lle y maent ar waith. Fodd bynnag, mae Estyn wedi beirniadu rhai consortia addysgol ynglŷn â’u trefniadau llywodraethu a’u perfformiad. Er enghraifft, ym mis Mehefin 2016, beirniadwyd consortiwm addysg gogledd Cymru ganddynt am safonau gwaith gwael, am mai’r gyfradd wella mewn llawer o ddeilliannau disgyblion oedd yr arafaf o bedwar rhanbarth, ac am fod y consortiwm wedi bod yn araf i sicrhau bod y trefniadau llywodraethu yn cyd-fynd â model cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithio rhanbarthol. Os oes gennych fodel yn awr gyda beirniadaeth mor hallt ac nad yw i’w weld yn gweithio’n effeithiol, pam y buasech eisiau ailadrodd hynny?