Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 15 Chwefror 2017.
Diolch, Lywydd. Yr wythnos diwethaf, mewn ymateb i gwestiynau gan Blaid Cymru ar leoliad yr awdurdod refeniw newydd, fe ddywedodd y Prif Weinidog hyn:
rŷm ni yn siarad am swyddi sydd ag arbenigedd sydd ddim ar gael yng Nghymru, fwy neu lai.’
Aeth ymlaen i ddweud:
Mae’r rhan fwyaf o’r bobl yn mynd i ddod o Lundain’.
Eto, pan holwyd cyfarwyddwr cyflawni’r awdurdod yr un cwestiwn yn y Pwyllgor Cyllid y diwrnod wedyn, sef a yw’r arbenigedd perthnasol yn bodoli yma yng Nghymru ac a fydd yr awdurdod yn recriwtio yng Nghymru, fe ddywedodd y cyfarwyddwr fod y sgiliau ar gael yma ac y bydd yr awdurdod yn recriwtio yng Nghymru. Pwy, felly, yn eich barn chi, y dylwn ni wrando arnyn nhw? Y Prif Weinidog ynteu’r arbenigwr sydd wedi’i apwyntio i sefydlu’r corff yma? Os mai barn yr arbenigwr sy’n ddilys, ydy’r Prif Weinidog yn euog o gamarwain y Cynulliad? Yn sicr, mae o’n euog o bardduo a thanbrisio a bychanu Cymru. Unwaith eto, mae Llafur yn dweud bod Cymru yn ‘too poor, too small, too stupid’, i ddyfynnu’r anfarwol Alex Salmond. Mae hynny’n warthus, ac mae angen i’r Prif Weinidog ymddiheuro.