<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 15 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 1:56, 15 Chwefror 2017

A gaf i jest eich atgoffa chi o beth ddywedodd y Prif Weinidog? Mi ddwedodd o:

Mae’r rhan fwyaf o’r bobl yn mynd i ddod o Lundain’.

Rydw i’n symud ymlaen i’r Papur Gwyn a gafodd ei gyflwyno gennych chi, ychydig o wythnosau yn ôl, ar ddiwygio llywodraeth leol. Mae yna nifer o gwestiynau yn codi, yn bennaf: a fydd y math o drefniadau rhanbarthol sy’n cael eu cynnig yn creu cymhlethdod a dryswch i bobl Cymru? Un o brif broblemau’r sector cyhoeddus yng Nghymru ar hyn o bryd, yn ôl adroddiad y comisiwn Williams, yw ei fod yn rhy gymhleth, ac felly’n rhwystro awdurdodau lleol rhag darparu ac ymgysylltu yn effeithiol. Rydw i’n tynnu sylw’r Cynulliad at y model fframwaith a phatrwm daearyddol a gynigir yn y papur, sef pwynt 2.6.10. Gallai hyn olygu, er y byddai rhai gwasanaethau yn cael eu cyflwyno ar lefel ranbarthol, gallai gwasanaethau eraill gael eu darparu gan bartneriaethau eraill isranbarthol, neu hyd yn oed bartneriaethau isranbarthol a fydd yn croesi’r ffiniau rhanbarthol. Felly, yn gyntaf, a ydych chi’n meddwl bod y model hwn yn symleiddio’r ffordd y bydd awdurdodau lleol yn darparu gwasanaethau, ynteu a fydd yr holl system yn ddryslyd tu hwnt, ac y bydd atebolrwydd yn mynd ar goll?