<p>Gwariant Cyhoeddus</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 15 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:05, 15 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Tynnodd sylw yn ei ymatebion cynharach at effeithiau niweidiol polisïau caledi Torïaidd. Bydd pwysau cynyddol ar gyllid cyhoeddus yn y blynyddoedd nesaf, ac ni fydd y cymhlethdod o fynd i’r afael â’r heriau’n dod fymryn haws. A fuasai’n cytuno y buasai darlun clir a chynhwysfawr o holl wariant cyhoeddus—lleol, Llywodraeth Cymru a ledled y DU, yn cwmpasu iechyd, budd-daliadau, addysg ac yn y blaen—ar lefel awdurdod lleol neu, os caf ddweud, ar lefel cod post, yn amcan gwerthfawr y dylem i gyd fod yn ymgyrraedd tuag ato? Ac os yw’n cytuno, a oes unrhyw drafodaethau cyfredol ar y gweill, neu a yw’n rhagweld y bydd yn cael y trafodaethau hynny yn y dyfodol?