Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 15 Chwefror 2017.
Diolch i’r Aelod am hynny. Mae yna bethau yr ydym yn eu dweud ar y pwnc hwn yn y Papur Gwyn ar lywodraeth leol, a rhannaf ei ffocws ar y ffordd y gall dadansoddi data mawr wneud gwahaniaeth i’r agweddau mwyaf bob dydd ar yr hyn y mae awdurdodau lleol yn eu darparu. Yn gynharach yr wythnos hon, clywais gan gwmni dadansoddi data mawr am y ffordd y mae rhywrai mewn rhan arall o’r byd wedi gallu gwneud gwahaniaeth radical i’r ffordd y caiff ffyrdd eu clirio pan fydd hi’n bwrw eira drwy gasglu data gan ddinasyddion. Trwy fynd i wraidd data o’r math hwnnw, gall cynghorau wynebu dyfodol anodd iawn drwy ddefnyddio’u hadnoddau cyfyngedig yn y ffordd fwy uniongyrchol effeithiol honno.