<p>Achos 24 Amwythig</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 15 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 2:19, 15 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Fe fyddwch yn gyfarwydd—ond efallai na fydd yr Aelodau’n gyfarwydd, o’r sgyrsiau a gefais yr wythnos hon—ag achos 24 Amwythig. Yn y 1970au cynnar, cafwyd y streic genedlaethol gyntaf, a’r unig un erioed gan weithwyr adeiladu, pan aeth gweithwyr ar streic am 15 diwrnod, ac ar adeg pan oedd gweithwyr adeiladu ar waelod y raddfa gyflog a phan nad oedd iechyd a diogelwch yn bodoli, gyda gweithwyr adeiladu’n cael eu lladd yn llawer rhy reolaidd.

Yn dilyn y streic, arestiwyd gweithwyr a fu’n bicedwyr gwib, gan gynnwys dau etholwr i mi, Arthur Murray a Terry Renshaw, a’u clirio wedyn yn Llys y Goron yr Wyddgrug. Yna fe’u hailarestiwyd a’u hanfon i wynebu achos yn Llys y Goron Amwythig, lle y cafwyd y picedwyr yn euog ar nifer o gyhuddiadau ac anfonwyd rhai ohonynt i garchar.

Bron i 40 mlynedd yn ddiweddarach, ni chafwyd cyfiawnder ac mae llawer o gwestiynau’n parhau, er enghraifft: pham y cawsant eu clirio yn yr Wyddgrug a’u hailarestio i wynebu achos yn Amwythig? Gwnsler Cyffredinol, er fy mod yn cydnabod bod cyfiawnder troseddol yn parhau i fod heb ei ddatganoli, a gaf fi ofyn pa ystyriaeth a roddwyd i sut y mae’r anghyfiawnder hwn wedi effeithio ar weithwyr Cymru ac a wnewch chi gyfarfod â mi i drafod hyn ymhellach?