<p>Cyfreithiau’r UE yng Nghymru</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 15 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:24, 15 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Mae’r cwestiwn hwn yn amodol ar gonfensiwn swyddogion y gyfraith. Ond gallaf ddweud ein bod ar bob lefel yn gweithio i sicrhau y bydd pwerau yng Nghymru i ymdrin â deddfwriaeth yr UE mewn meysydd datganoledig yn dilyn ymadael â’r UE fel y bydd penderfyniadau ynghylch polisi yn y dyfodol yn y meysydd hynny’n cael eu gwneud gan Gymru ac er budd gorau Cymru. Bydd hyn yn cynnwys ystyriaeth feirniadol o Fil diddymu mawr Llywodraeth y DU.