Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 15 Chwefror 2017.
Diolch—
‘Rydym yn sefyll mewn undod llwyr gyda’n holl bobl, o ba wlad bynnag y maent yn dod yn wreiddiol ac yn credu y dylai Llywodraeth y DU fod eisoes wedi dweud yn glir eu bod yn gwarantu hawliau pawb sydd yn preswylio’n gyfreithiol yn y DU ar ôl i ni ymadael â’r UE. Galwn ar Lywodraeth y DU i wneud datganiad clir ynghylch hyn er mwyn tawelu meddyliau dinasyddion yr UE sy’n byw yng Nghymru a thu hwnt yn y DU. Galwn ar yr UE i wneud datganiad cyfatebol mewn perthynas â dinasyddion Cymru a’r DU sy’n byw yn yr UE. Gwrthodwn yn llwyr unrhyw awgrym y dylid defnyddio statws dinasyddion sydd â hawl ddilys i fyw yma i fargeinio wrth negodi ynghylch ymadawiad y DU â’r UE.’