5. 5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar ei Waith Craffu ar ôl Deddfu ar Ddeddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:08 pm ar 15 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 4:08, 15 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw, gan fy mod yn meddwl bod nifer y cyfranwyr yn dyst i’r teimlad cryf yn y Cynulliad hwn fod angen i ni fynd ati i bob pwrpas i atal cam-drin domestig, trais rhywiol a thrais yn erbyn menywod, a chynyddu ac adnewyddu ein hymdrechion i wneud yn siŵr fod y ddeddfwriaeth hon yn effeithiol?

Cafwyd cryn nifer o themâu cyffredin, ac rwy’n credu mai’r gryfaf yw’r un yn ymwneud ag addysg a pherthynas iach, ac yn ddealladwy felly os ydym yn sôn am atal, yn amlwg; mae angen i ni wneud yn siŵr fod ein pobl ifanc yn y blynyddoedd cynharaf a thrwy’r ysgol a thu hwnt yn cael y negeseuon cywir ac yn datblygu’r agweddau cywir. Felly, ar y pwyntiau a wnaed ynglŷn â dull gorfodol o weithredu, ar ba ffurf bynnag, ac ym mha ffordd bynnag y caiff ei ddatblygu, mae’n rhaid i ni fod yn hyderus y bydd ein hysgolion yn rhoi addysg perthynas iach i’n disgyblion yn gyson ac yn effeithiol. Yn amlwg, mae Donaldson yn hollol allweddol o ran yr ysgolion, ac mae gennym fesurau yn y ddeddfwriaeth hefyd ar gyfer addysg bellach ac addysg uwch. Cafodd hyn ei gydnabod yn y cyfraniadau heddiw. Mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn cael pethau’n iawn o ran addysg, felly roeddwn yn falch iawn o glywed Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod hynny ac yn wir, yn cyfeirio at drafodaethau gyda chyd-Aelodau i sicrhau bod gennym y dull cyson y mae gofyn i ni ei gael yn ein system haddysg. Yn amlwg, bydd y pwyllgor, a phob Aelod yma, rwy’n siŵr, a rhanddeiliaid y tu allan, yn dilyn y datblygiadau’n ofalus ac yn fanwl iawn mewn perthynas â hynny.

Mae yna themâu cyffredinol hefyd, Ddirprwy Lywydd, yn ymwneud â chyflymder y gweithredu, effeithiolrwydd y gweithredu, a chafwyd sawl enghraifft o argymhellion gan y pwyllgor a’r ymatebion gan y Llywodraeth ynglŷn â sut y mae angen edrych ar hynny eto a’i ddatblygu mor amserol ac effeithiol ag y bo modd. Unwaith eto, rwy’n falch iawn o glywed Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod y pryderon hynny yn adroddiad y pwyllgor ac yn y ddadl heddiw, ac unwaith eto, yn ymrwymo i ailffocysu egni Llywodraeth Cymru a gweithio i sicrhau bod y pryderon hynny’n cael eu deall yn briodol a bod camau’n cael eu rhoi ar waith yn eu cylch. Unwaith eto, rwy’n siŵr y bydd pawb yma, y pwyllgor a’r rhanddeiliaid y tu allan, yn dilyn y datblygiadau’n agos iawn o ran hynny.

Rwy’n meddwl bod rhai o’r pwyntiau mwy penodol a grybwyllwyd yn ddiddorol iawn i ni, Ddirprwy Lywydd. Mae yna agweddau’n ymwneud â hyfforddiant, tanlinellu hyfforddiant, a gafodd eu cyfleu’n gryf iawn yn y dystiolaeth a gawsom, fel y dylai gofynion y ddeddfwriaeth hon gyd-fynd yn rhesymegol ac yn amlwg mewn gwirionedd â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, er mwyn sicrhau y gall yr awdurdodau lleol ac eraill y mae gofyn iddynt weithredu’r ddeddfwriaeth hon wneud hynny mewn ffordd gosteffeithiol drwy gysoni eu hymdrechion hyfforddi o gwmpas y gwahanol ddeddfau hyn. Oherwydd maent yn ategu ei gilydd, maent yn galw am lawer o bethau sy’n gyffredin rhyngddynt, ac felly mae honno, rwy’n meddwl, yn ymagwedd go synhwyrol.

Rwy’n meddwl bod Dawn Bowden yn llygad ei lle, a chyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet at yr hyn a ddywedodd am gam-drin gorthrechol ac agweddau cyfyngol, a pha mor arwyddocaol yw hynny yn y darlun cyffredinol o gam-drin. Felly, mae angen i ni wneud yn siŵr, wrth ddod yn ôl at addysg perthynas iach, ei bod yn cadw’r agwedd benodol honno ar gam-drin mewn cof, a’i bod yn sicrhau bod yr agweddau iach sy’n cael eu datblygu drwy addysg yn osgoi’r peryglon posibl hynny. Mae’n ddarlun eang pan edrychwn ar y cam-drin sy’n digwydd; nid yw bob amser yr hyn y buasai pobl yn ei feddwl yn syth ac yn fwyaf amlwg, ac mae’n rhaid i ni sicrhau bod addysg perthynas iach yn cynnwys pob agwedd ar gam-drin.

Mae’r canllaw arferion da yn amlwg yn ddefnyddiol iawn o ran ysgolion, ac mae angen inni sicrhau, fel y dywedodd Rhianon Passmore, fod yna ddull cyson o weithredu ar hynny. Hefyd, rwy’n meddwl y dylem gydnabod cryfder yr hyn a ddywedodd Jenny Rathbone ynglŷn ag anffurfio organau cenhedlu benywod, y gwaith sy’n digwydd mewn ysgolion arloesi, a Donaldson, ac unwaith eto, sut y mae Estyn yn arolygu. Rhaid i hynny fod yn flaenllaw yn y datblygiadau sy’n digwydd. Siaradodd Joyce Watson, fel y gwnaeth yn effeithiol yn y pwyllgor, am y cynghorwyr annibynnol ar drais yn erbyn menywod a’r grwpiau amlasiantaeth, a phwysigrwydd uno â Llywodraeth y DU a’r comisiynwyr heddlu a throseddu, ac unwaith eto, roeddwn yn croesawu’r cyfraniad hwnnw’n fawr, gan ei fod yn bwysig iawn i’r ddadl hon.

Cyfeiriodd Janet Finch-Saunders, unwaith eto, at y cynghorydd cenedlaethol a rhai o’r problemau capasiti yr oedd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cydnabod. Ac roedd yn dda clywed Ysgrifennydd y Cabinet yn siarad am ei farn fod angen i ni edrych ar y materion hyn eto, ac yn wir, mae wedi gweithredu a bydd yn ystyried materion ymhellach.

Ddirprwy Lywydd, gallaf eich gweld yn nodi bod amser yn brin iawn—yn fyr iawn wir—felly fe orffennaf drwy ddiolch i bawb, yn enwedig Ysgrifennydd y Cabinet am ei fod wedi gwrando o ddifrif ar y ddadl ac wedi ymateb i bryderon y pwyllgor. Wrth inni symud ymlaen, gwn y byddwn yn parhau i weithio’n agos iawn gydag Ysgrifennydd y Cabinet i wneud yn siŵr fod ffocws ac ymrwymiad o’r newydd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y ddeddfwriaeth hynod bwysig hon, a gafodd ei chydnabod yn yr holl gyfraniadau heddiw ac yn ein hadroddiad pwyllgor a chan y rhanddeiliaid dan sylw, bellach yn destun ffocws a gweithredu o’r newydd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y gweithredu effeithiol ac amserol hwnnw’n cael ei yrru yn ei flaen. Diolch yn fawr.