6. 6. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Mis Hanes Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 15 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 4:15, 15 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Er bod mwy y gallwn ei wneud ar hawliau LHDT, ni allwn ac ni ddylem byth fod yn hunanfodlon, ond mae’n iawn heddiw i ni roi amser i ddathlu ein hamrywiaeth a’n cynnydd fel cymdeithas. Gobeithiaf y bydd y ddadl heddiw yn rhoi cyfle i gyflwyno’r cadarnhaol a chynnig neges hollbwysig o obaith i bobl LHDT yng Nghymru, yn enwedig pobl LHDT iau, ac ar yr un pryd, i amlinellu’r heriau sy’n parhau a’r camau nesaf sydd eu hangen.

Themâu’r Mis Hanes LHDT eleni yw dinasyddiaeth, addysg bersonol, gymdeithasol ac iechyd, a’r gyfraith, a chynhelir dros 1,000 o ddigwyddiadau ar draws y DU. Mae ysgolion sy’n dathlu gwahaniaeth ac yn meddu ar ymagwedd gadarnhaol tuag at gynnwys materion LHDT yn eu haddysgu ar draws y cwricwlwm yn gweld cyfraddau is o fwlio a chyflawniadau uchel ymhlith disgyblion LHDT. Mae cyflwyno’r cwricwlwm newydd yng Nghymru yn rhoi cyfle i ddangos y gall pob ysgol ymgorffori agwedd gadarnhaol tuag at gynhwysiant LHDT yn eu haddysgu a chyflwyno addysg rhyw a chydberthynas sy’n gynhwysol o ran LHDT.

Mae angen inni weld canllawiau statudol yn cael eu cyhoeddi i bob awdurdod, ysgol a chonsortiwm addysg lleol ar addysg rhyw a chydberthynas addas i’r oedran. Mewn ysgolion uwchradd, dylent sicrhau bod materion sy’n wynebu pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol yn cael eu cynnwys mewn pynciau megis cydsyniad a diogelwch ar-lein. Mewn ysgolion cynradd, dylai hyn gynnwys siarad am wahanol fathau o deuluoedd, gan gynnwys rhieni o’r un rhyw, gan wneud pobl ifanc yn ymwybodol o’r amrywiaeth o fywyd teuluol a mathau o berthynas cyn dechrau yn yr ysgol uwchradd, a gweithio i fynd i’r afael â stereoteipiau rhyw mewn gwersi a gweithgareddau. Yn ogystal, mae angen ymrwymiad clir i hyfforddi athrawon ac aelodau eraill o staff yr ysgol ynglŷn â threchu bwlio homoffobig, deuffobig a thrawsffobig. Rydym yn gwybod bod y rhan fwyaf o staff ysgolion yn awyddus i fynd i’r afael â bwlio o’r fath, ond yn aml yn teimlo nad oes ganddynt yr offer, yr hyder neu’r adnoddau cywir i wneud hynny. Ar y nodyn hwnnw, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg am roi amser i gyfarfod â Jeremy Miles a minnau ac am ei hymrwymiad i fynd i’r afael â’r materion pwysig hyn.

Amser cinio heddiw, cynhaliais lansiad arddangosfa Eiconau a Chyfeillion LHDT Pride Cymru yma yn y Senedd. Mae’r arddangosfa’n cynnwys 20 o fodelau rôl a chynghreiriaid o hanes LHDT a heddiw. Cefnogir yr arddangosfa gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, ac mae’n dathlu ffigyrau artistig, llenyddol, byd busnes, milwrol ac elusennol yn ogystal ag ymgyrchwyr. Efallai na fydd yn syndod i gyd-Aelodau yma fod yr arddangosfa yn cynnwys nifer o weithredwyr gwleidyddol ac ymgyrchwyr. Hoffwn dalu teyrnged i ddewrder ac ymrwymiad y bobl a fu’n ymgyrchu ac yn ymladd dros nifer o flynyddoedd er mwyn i ni symud y ddadl wleidyddol a deddfu ar gydraddoldeb.

Gofynnir i mi’n aml pan fyddaf yn mynd i ddigwyddiadau Pride, ‘Pam y mae gennych wleidyddiaeth yn Pride? Hwyl yw hyn i fod.’ Wel, ar ei gorau, mae gan wleidyddiaeth botensial i newid bywydau, ac rwy’n falch heddiw o gynrychioli’r blaid a arweiniodd y ffordd ar ddeddfu ar hawliau cyfartal, ar hawliau LHDT, gan alluogi pobl fel fi i sefyll yma, i fyw ein bywydau drwy fod yn pwy ydym a sut rydym. Ar bwnc digwyddiadau Pride, roeddwn eisiau cynnwys un hyrwyddiad digywilydd. Byddai’n esgeulus ohonof i beidio â sôn y bydd y digwyddiad Pride Sir y Fflint cyntaf erioed yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn 27 Mai eleni yng nghlwb rygbi yr Wyddgrug yn fy etholaeth. Yn amlwg, fe fyddaf yn ei fynychu. [Chwerthin.]

Mae ymdeimlad o hanes yn bwysig i gydlyniant cymunedol, yn ogystal â darparu modelau rôl sy’n ysbrydoli pobl ifanc a dangos yn gadarnhaol rôl pobl LHDT fel rhan o’n cymdeithas. Rwy’n hynod ac yn dragwyddol ddiolchgar i’r rheini a oedd yn barod i fod yn arloeswyr ar adegau llawer mwy anodd a chythryblus, y bobl a baratodd y ffordd a alluogodd bobl fel fi i fod yn fwy tebygol o godi ein pennau uwchben y parapet heddiw.

Pan ofynnwyd i mi yn gyntaf i noddi lansiad arddangosfa Eiconau a Chyfeillion LHDT, cefais fy synnu mewn gwirionedd wrth sylweddoli cyn lleied a wyddwn yn bersonol am y rhai a oedd yn rhan o’r arddangosfa. Gwnaeth i mi feddwl cymaint y brwydrais yn fy arddegau, wrth dyfu i fyny, i ddod o hyd i bobl y gallwn uniaethu â hwy neu fodelau rôl LHDT amlwg. Rwy’n falch o fod yn un o’r Aelodau cyntaf i ddod allan yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ac i mi, mewn gwirionedd, roeddwn eisiau bod yn agored ac yn onest yn fy ymagwedd tuag at wleidyddiaeth. I mi, roedd hi’n bwysig fy mod yn agored ac yn onest ynglŷn â phwy wyf fi. Oherwydd gwyddom fod cael ein gweld yn bwysig. Mae yna ddywediad na allwch fod yr hyn na allwch ei weld. Daeth hyn yn amlwg i mi ychydig fisoedd yn unig ar ôl i mi gael fy ethol, pan oeddwn yn mynychu digwyddiad lleol, a daeth rhywun ataf i ddweud wrthyf am ddau yn eu harddegau a oedd yn hoyw ac a oedd wedi dweud wrthynt eu bod newydd ddarganfod ar gyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar fy mod innau hefyd, a’i fod wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol iddynt. Yr hyn a’m trawodd oedd nid yr hyn yr oeddent yn ei ddweud amdanaf fi, ond y ffaith ein bod wedi symud ymlaen cymaint fel cymdeithas mewn gwirionedd ers 20 mlynedd yn ôl, pan oeddwn innau tua’r un oed, a bod pobl ifanc yn teimlo eu bod yn gallu bod yn agored am eu rhywioldeb.

Ond ni ddylem anghofio bod y penderfyniad i ddod allan yn wahanol i bob unigolyn a bron bob amser yn llawn o bryder. Rydym wedi dod yn bell iawn, ond mae dod allan, boed yn bersonol, yn gyhoeddus a/neu’n wleidyddol, yn dal i fod yn foment hynod o bersonol ac unigryw i’r rhan fwyaf o bobl LHDT. Daw ein dewis i ddatgelu’r rhan hon o’n hunaniaeth law yn llaw ag ofn ynglŷn â sut y bydd pobl eraill yn ymateb, sut y bydd yn effeithio arnom, ar ein bywydau neu fywydau’r rhai o’n cwmpas, a chredaf mai ein neges heddiw i bob person LHDT yng Nghymru o reidrwydd yw: rydych yn anhygoel, rydych yn bwysig ac mae gennych gyfraniad i’w wneud i’ch cymuned ac i’n gwlad fel yr ydych. Gobeithio, un diwrnod, y byddwn yn byw mewn byd lle y gall pob person LHDT ddod o hyd i rwydwaith o gyfeillgarwch a chefnogaeth sy’n eu galluogi i fod yn hwy eu hunain ac yn eu tro, i herio unigrwydd a chasineb.

Wrth ddod i ben, hoffwn ailadrodd stori. Yn ddiweddar, euthum yn ôl i fy hen ysgol i noson wobrwyo flynyddol. Gallwch godi sawl gwaith yn y Siambr hon, gallwch roi cyfweliadau yn y cyfryngau, ond gwn pan fyddaf yn cerdded drwy ddrysau fy hen ysgol fy mod yn berson 15 oed nerfus a swil unwaith eto. Un o’r cwestiynau o ofynnwyd i mi yn y sesiwn hawl i holi—y cwestiwn olaf—oedd, ‘Pa gyngor y byddech yn ei roi i fyfyrwyr yma heddiw?’ Y cyngor a roddais oedd, ‘Byddwch yn chi’ch hun a chredwch ynoch eich hun.’ Oherwydd gall ymddangos weithiau fel y peth gwaethaf yn y byd i fod yn wahanol, yn enwedig pan fyddwch yn berson ifanc lletchwith yn eich arddegau, ond mae’n gwella, credwch fi—ac rwy’n gwybod bod hynny’n beth braidd yn eironig i’w ddweud fel gwleidydd. [Chwerthin.] Credwch fi; o ddifrif, mae’n gwella.

Yn union cyn i mi gael fy ethol cymerais ran yn rhaglen Modelau Rôl Stonewall mewn bywyd blaenorol fel cynrychiolydd undeb. Mae’r dyfyniad a gymerwyd o hynny, na chefais unrhyw—. Nid oeddwn yn sylweddoli ar y pryd pa mor broffwydol y byddai. Dywedais fy mod eisiau bod yn rhan o’r gwaith o greu Cymru sy’n fwy cynrychioliadol. Rwy’n meddwl heddiw, ac wrth symud ymlaen, fod gennym gyfle diffiniol fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru i arwain ar gydraddoldeb LHDT, ac mae’n rhaid i ni arwain. Diolch yn fawr. [Aelodau’r Cynulliad: ‘Clywch, clywch’.]