Part of the debate – Senedd Cymru am 4:29 pm ar 15 Chwefror 2017.
Mae Stonewall Cymru wedi datgan bod 55 y cant o ddisgyblion LHD wedi dioddef bwlio ar sail eu cyfeiriadedd rhywiol; fod 83 y cant o bobl ifanc trawsrywiol wedi dioddef cam-drin geiriol a 35 y cant wedi dioddef ymosodiad corfforol. Pan euthum ar drywydd achos bachgen ysgol yn Sir y Fflint a oedd wedi dioddef bwlio homoffobig, dywedwyd wrthyf gan brif swyddog addysg fod yr ysgolion uwchradd yn y sir wedi elwa o hyfforddiant helaeth mewn ysgolion iach a dulliau gwrth-fwlio, ond dywedodd y fam wrthyf wedyn, ‘Rwy’n teimlo’n gwbl rwystredig ynglŷn â chyn lleied o ddiddordeb sydd wedi’i ddangos gan yr unigolion a bennwyd i ymdrin ag achos fy mab, mae fy nghwestiynau’n dal i fod heb eu hateb, ac felly, mae’r mater yn dal i fod heb ei ddatrys’. Mae hyn yn ymwneud â deall a derbyniad.
Mae pobl LHDT yng Nghymru yn parhau i wynebu anghydraddoldebau iechyd sylweddol, a dim ond un o bob 20 o weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol sydd wedi cael hyfforddiant ar anghenion iechyd pobl LHDT, yn ôl Stonewall. Ar gyfer y ddadl hon, anfonodd Ymddiriedolaeth Terrence Higgins wybodaeth ataf a nodai fod cyfraddau HIV a heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yn parhau i godi, a bod dynion hoyw a deurywiol a phobl ifanc yn parhau i ddioddef ar draws Cymru, ac eto mae mynediad at wasanaethau iechyd rhywiol ledled Cymru, gan gynnwys ar gyfer y gymuned LHDT, yn parhau i ddirywio. Roeddent yn dweud nad oes unrhyw wasanaeth iechyd rhywiol statudol yn cael ei ddarparu ym Mhowys ar hyn o bryd, a bod gwasanaethau atal a hybu iechyd rhywiol wedi cael eu datgomisiynu ym myrddau iechyd Betsi Cadwaladr, Cwm Taf a Hywel Dda, er gwaethaf y ffaith eu bod yn dweud mai dyma’r ardaloedd sydd fwyaf o’u hangen.
Ym mis Tachwedd 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adolygiad cynhwysfawr o wasanaethau iechyd rhywiol yng Nghymru, o dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae Ymddiriedolaeth Terrence Higgins yn datgan bod yn rhaid ei wneud mewn partneriaeth â chymunedau yr effeithir arnynt gan HIV ac afiechyd rhywiol ac ateb anghenion y grwpiau hyn yn llawn, gan gynnwys dynion hoyw a deurywiol. Mae cynllun gweithredu cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar iechyd rhywiol a lles wedi dod i ben, heb unrhyw strategaeth newydd ar waith. Maent yn dweud bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddefnyddio canfyddiadau ei hadolygiad presennol o HIV a gwasanaethau iechyd rhywiol, yn ogystal â thystiolaeth o’r angen am addysg rhyw a chydberthynas, i ddiweddaru ei chynllun gweithredu sydd wedi dod i ben a nodi sut y bydd yn mynd i’r afael â chyfraddau cynyddol o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, cynorthwyo pobl sy’n byw gyda HIV i reoli eu hiechyd a’u lles, a sicrhau bod yr holl bobl ifanc yn cael yr addysg rhyw a chydberthynas y maent ei heisiau a’i hangen. Dylai’r cynllun gweithredu newydd fynd i’r afael â’r materion presennol a’r materion sy’n dod i’r amlwg mewn perthynas â HIV ac iechyd rhywiol, gan gynnwys defnydd rhywioledig o gyffuriau ac argaeledd cyffur proffylactig cyn-gysylltiol HIV, a ddisgrifir fel rhywbeth sy’n newid pethau’n sylfaenol yn y frwydr yn erbyn HIV, gan amddiffyn pobl HIV negyddol rhag cael HIV drwy gymryd cyffuriau gwrth-HIV pan fyddant mewn perygl o ddod i gysylltiad â HIV.
Mae adroddiad newydd gan Ymddiriedolaeth Terrence Higgins, ‘Unchartered Territory’, yn taflu goleuni ar anghenion a phrofiadau pobl dros 50 oed sy’n byw gyda HIV, gan gynnwys anghenion dynion hoyw a deurywiol sy’n byw gyda HIV. Mae effeithiolrwydd triniaeth fodern yn golygu y gall pobl sy’n byw gyda’r cyflwr ddisgwyl byw bywyd llawn. Mae hyn i’w ddathlu. Fodd bynnag, daw’r llwyddiant hwn â set o heriau newydd yn ei sgil. Disgrifiwyd 58 y cant o’r bobl sy’n byw gyda’r cyflwr yn 50 oed a hŷn fel rhai a oedd yn byw ar, neu islaw’r llinell dlodi—dwbl y lefelau tlodi a welir yn y boblogaeth yn gyffredinol. Roedd 84 y cant o’r bobl sy’n byw gyda’r cyflwr yn 50 oed a hŷn yn pryderu ynglŷn â sut y byddant yn rheoli cyflyrau iechyd lluosog yn y dyfodol. Mae pobl 50 oed a hŷn wedi wynebu gwahaniaethu gan weithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol oherwydd eu statws HIV, ac roedd traean yn profi arwahanrwydd cymdeithasol, ac 82 y cant yn profi lefelau cymedrol i uchel o unigrwydd. Er nad yw arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd wedi eu cyfyngu i bobl sy’n byw gyda’r cyflwr, roedd y rhai dros 50 sy’n byw gyda HIV yn gweld arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd fel pryderon sylweddol, yn awr ac ar gyfer y dyfodol. Felly, mae’n hanfodol fod sefydliadau HIV, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, yn ystyried sut y gellir lleddfu arwahanrwydd ac unigrwydd mewn pobl hŷn.
Mae rhagfarn a gwahaniaethu ar ddiwedd oes yn effeithio’n ddinistriol ar bobl LHDT. Ar ei waethaf, mae’n golygu y bydd rhywun yn treulio eu dyddiau olaf yn teimlo’n ynysig, yn unig, yn ofidus ac nad oes croeso iddynt. I rai sy’n colli rhywun annwyl, mae methu ffarwelio mewn amgylchedd parchus a thawel yn gallu gwneud galar a phrofedigaeth yn llawer anos i’w oddef. Felly, gadewch i ni fynd i’r afael ag anghydraddoldeb a hyrwyddo amrywiaeth ar draws Cymru gyda’n gilydd.