6. 6. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Mis Hanes Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:07 pm ar 15 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 5:07, 15 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Lywydd, mae’n bleser ymateb i’r ddadl y prynhawn yma, ar ôl gwrando ar yr holl gyfraniadau ar draws y Siambr. Nid y ddadl heddiw ar Fis Hanes LHDT yw’r tro cyntaf i ni gael trafodaeth ar gydraddoldeb LHDT yn y Senedd, ond mae’n arwyddocaol iawn fod y ddadl, am y tro cyntaf yn ein hanes, wedi cael ei harwain gan Aelodau Cynulliad sy’n lesbiaid a hoywon agored yn y Cynulliad: Hannah Blythyn, Adam Price a chyn hir, Jeremy Miles. Rwy’n ddiolchgar i bob un ohonynt, a Suzy Davies, yn wir, am gyflwyno’r cynnig heddiw, a hefyd am gyfraniadau nifer o’r Aelodau eraill hefyd. Rydym wedi clywed straeon personol, rydym wedi clywed am y gwaith parhaus tuag at gydraddoldeb LHDT ac rydym wedi clywed am yr hyn sy’n dal i fod angen ei wneud.

Ni all pobl nad ydynt yn LHDT wybod yn iawn faint o bwysau sy’n wynebu ein cyfeillion wrth ddarganfod, derbyn a dod o hyd i’r rhyddid i fod yn pwy ydynt, ond gall pob un ohonom, rwy’n gobeithio, fod yn gynghreiriaid da drwy ddangos empathi gyda’r profiad a’r ofn o beidio â chael eu derbyn neu’n waeth, o wynebu gwahaniaethu uniongyrchol. Ffrindiau, mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i wella bywydau a chyfleoedd pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol ledled Cymru a thrwy ein grant cydraddoldeb a chynhwysiant, rydym wedi cefnogi prosiectau i herio bwlio homoffobig, deuffobig a thrawsffobig mewn ysgolion. Rydym yn gweithio ar draws asiantaethau ar gynyddu lefelau adrodd am ddigwyddiadau casineb gwrth-LHDT, ac rydym wedi cefnogi sefydlu grwpiau fel Trans*form Cymru ar gyfer pobl ifanc trawsrywiol.

Yn y Cynulliad diwethaf, cyflwynodd fy rhagflaenydd, Lesley Griffiths, gynllun gweithredu trawsryweddol. Un o’r blaenoriaethau yn y cynllun yw gweithrediad strategaeth drawsryweddol GIG Cymru, a fydd yn cynnwys llwybr gofal a chanllawiau ar gyfer ymarferwyr gofal iechyd i gefnogi’r llwybr gofal; dyrannwyd £0.5 miliwn yn 2017-18 i wella gwasanaethau hunaniaeth o ran rhywedd yng Nghymru.

Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru yn 2011 i gynnwys dyletswyddau cydraddoldeb sector cyhoeddus ychwanegol a phenodol yng Nghymru hefyd wedi sicrhau newid diwylliannol pwysig yn y ffordd y mae ein cyrff cyhoeddus yn gwasanaethu anghenion pobl ar draws yr holl nodweddion gwarchodedig.

Lywydd, o ganlyniad, bu gwelliant amlwg yn y modd y mae cyrff yn ceisio cefnogi pobl LHDT, o ran darparu gwasanaethau ac fel cyflogwyr. Bythefnos yn ôl yn unig—llongyfarchiadau i’r Cynulliad hwn ar gael gwobr am fod y cyflogwr sector cyhoeddus gorau a’r pumed cyflogwr gorau ym Mhrydain i bobl LHDT. Er gwaethaf llwyddiant o’r fath, mae llawer mwy i’w wneud, ac rydym wedi clywed hynny gan yr Aelodau heddiw. Mae’r Aelodau yma yn gwneud yn siŵr fod camau gweithredu yn gadarn ar yr agenda. Gwn fod Jeremy wedi trafod gofal iechyd trawsryweddol gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, ynghyd â Hannah, sydd wedi cyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i drafod materion LHDT yn ein hysgolion, ac addysg rhyw, addysg ar berthynas, y siaradodd Julie Morgan amdani.

Ni allwn gymryd cynnydd yn ganiataol, fodd bynnag. Mewn gwledydd o gwmpas y byd mae yna bobl sy’n ymrwymedig i gyfyngu ar hawliau LHDT. Rydym wedi ymrwymo i’w hyrwyddo, yn union fel y gwnaethom yn 2002, pan ryddhaodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ganllawiau i ysgolion a roddodd ddiwedd i bob pwrpas ar y cymal 28 homoffobaidd flwyddyn cyn ei ddiddymu’n llawn yn San Steffan. Soniais am gymal 28 am fy mod yn credu ei fod yn dal i daro wrth wraidd y ddadl hon, a gyflwynwyd gan yr Aelodau yn y Siambr. Yn ymarferol, yr hyn a olygai oedd na fyddai neb byth yn dweud wrth ddisgyblion hoyw, ‘Mae’n iawn i chi fod yn pwy ydych.’ Ni chawsant erioed ddysgu am wahanol syniadau a hunaniaethau. Ni ddywedwyd wrthynt erioed neu ni chawsant erioed fodelau rôl fel Gareth Thomas, Nigel Owens, Jeremy Miles, Hannah Blythyn neu’n wir, Adam Price. Yn hytrach, fe wnaethant ddysgu bod ar wahân, bod ynghudd, bod yn ddistaw. Cafodd cenhedlaeth o bobl ifanc LHDT eu gwneud yn agored i fwlio wedi’i sancsiynu gan y wladwriaeth. Dywedwyd wrth y genhedlaeth a ddaeth o’u blaenau fod bod yn LHDT yn anghyfreithlon ac yn anghywir. Mae effaith hanes yn dal i’w theimlo heddiw. Er ein bod yn byw bellach mewn gwlad sy’n dathlu hawliau cyfartal, priodas un rhyw ac amddiffyniad rhag gwahaniaethu, rhaid i ni beidio ag anghofio’r miloedd o fywydau a guddiwyd ac a gollwyd mewn gorffennol a oedd yn trin pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol yn llai na chyfartal. Y Mis Hanes LHDT hwn, cofiwn eu hanes, Lywydd, a dathlwn y cariad a’r dyngarwch yr ydym i gyd yn ei rannu yma heddiw. Diolch.