Part of the debate – Senedd Cymru am 5:19 pm ar 15 Chwefror 2017.
Diolch, Lywydd. Mae bancio yng Nghymru ers i ni golli’r olaf o’r banciau a oedd mewn perchnogaeth leol ar ddechrau’r ugeinfed ganrif wedi bod yr hyn sy’n cyfateb yn ariannol i economi ffatrïoedd cangen, a nodweddir gan ganghennau lleol o gwmnïau mawr sy’n eiddo i gyfranddalwyr gyda phencadlys yn Ninas Llundain. Mae Cymru wedi dioddef, yn hynny o beth, yn sgil y system fancio fwyaf canolog a dwys yn unman yn y byd diwydiannol yn ôl pob tebyg, gyda chyfran o’r farchnad y pump mawr dros 85 y cant, rwy’n credu.
Rydym yn awr yn cychwyn ar gyfnod newydd sy’n peri pryder yn yr hanes hwnnw o oruchafiaeth, lle y mae hyd yn oed canghennau o’r economi ffatrïoedd cangen honno’n cael eu cau, a rhannau helaeth o’n gwlad—cymunedau gwledig, cymunedau tlawd, heb fod yn ddigon proffidiol i gyflawni’r math o enillion y mae banciau modern yn eu ceisio—mewn perygl o droi’n anialwch ariannol, heb unrhyw fath o wasanaeth bancio cynhwysfawr. Mewn gwirionedd mae Cymru yn cael ei tharo’n waeth na’r rhan fwyaf o’r DU, ac yn ôl UBS, mwy na thebyg ein bod yn wynebu colli 50 y cant arall o’n rhwydwaith o ganghennau sy’n weddill dros y degawd nesaf. Mae’r banciau wedi cyflwyno hyn fel rhan o symudiad naturiol tuag at fancio ar-lein yn unig—yr hyn sy’n cyfateb yn ariannol i brosesau sydd ar waith mewn rhannau eraill o’r economi. Ac mae elfen o wirionedd yn hyn, ond mae hefyd wedi’i orliwio gan fanciau sy’n ceisio cynyddu elw drwy dorri costau sy’n gysylltiedig â darparu bancio perthynas, sy’n galw am ddarpariaeth gyffredinol a gwasanaethau wyneb yn wyneb. A’r prawf o hynny yw bod canghennau’n cau yn llawer cyflymach na’r dirywiad yng ngweithgarwch canghennau.
Ac wrth gwrs, mae’n mynd yn groes i’r hyn y mae pobl yn ei ddweud. Canfu ymchwil ar ran yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd yn 2015 fod 63 y cant o gwsmeriaid cyfrifon cyfredol yn teimlo bod cael cangen leol gyfleus naill ai’n hanfodol neu’n bwysig iawn, a’i fod yn codi i 76 y cant ymhlith rhai sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol. Ymhell o fod yn ddim ond ymateb i newidiadau yn y farchnad, mae banciau mewn gwirionedd yn dewis cau banciau mewn ardaloedd tlotach gan eu cadw—mewn gwirionedd maent hyd yn oed yn agor canghennau newydd—mewn ardaloedd mwy cefnog, yn enwedig yn Llundain. Maent yn gwneud hyn waeth beth fydd effaith cau cangen ar bobl heb fanc, pobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol, yr henoed, yr anabl, pobl ar incwm isel a’r rhai sy’n byw mewn cymunedau gwledig. Ac mae’r effaith ar fusnes mewn cymunedau heb fanc yn arbennig o ddifrifol. Mae ymchwil gan Move Your Money, y grŵp ymgyrchu, gan ddefnyddio data benthyca Cymdeithas Bancwyr Prydain, yn dangos bod cau canghennau banc yn lleihau twf benthyca i fusnesau bach a chanolig o 63 y cant, ar gyfartaledd, mewn ardaloedd cod post sy’n colli cangen o fanc. Mae’r ffigur hwnnw’n codi i 104 y cant mewn ardaloedd cod post sy’n colli eu banc olaf yn y dref. Ar gyfartaledd, mae ardaloedd cod post sy’n colli eu banc olaf yn y dref yn cael £1.6 miliwn y flwyddyn yn llai mewn benthyciadau dros gyfnod o flwyddyn.
Yn anffodus, nid yw banciau’n ystyried lles y cyhoedd na’r effaith y bydd cau yn ei chael wrth wneud y penderfyniadau hyn. Mae’r rhain yn gyhoeddiadau cau a bennwyd ymlaen llaw, nid oes unrhyw ymgynghori, a dyna pam yr ystyriwn fod y protocol mynediad at fancio y cyfeirir ato yn un o welliannau’r Ceidwadwyr yn gwbl annigonol. Rydym yn dadlau bod y model bancio presennol yn y wlad hon, sy’n seiliedig ar gystadleuaeth dybiedig rhwng y pum banc mwyaf, wedi torri. Mae’r hyn a elwir yn fanciau heriol yn targedu ardaloedd sydd eisoes yn gefnog, neu yn achos banciau digidol yn unig, cwsmeriaid iau, nid yr ardaloedd lle na cheir gwasanaeth digonol. Y bobl dlotaf sy’n fwyaf tebygol o fod heb fynediad at wasanaethau banc, mae busnesau bach yn cael eu hesgeuluso, ac mae benthyg, fel y gwyddom, yn canolbwyntio’n anghymesur ar Lundain a de-ddwyrain Lloegr.
Mae sefydliadau eraill yn bodoli—mae rhai’n rhan o’r rhwydwaith cyllid cyfrifol y cyfeirir ato yng ngwelliant y Ceidwadwyr—ond maent yn ei chael hi’n anodd cystadlu mewn system a sefydlwyd er budd y banciau mawr. Yr hyn sydd ei angen arnom yn ein barn ni yw system fancio sy’n fwy amrywiol. Mae gan y rhan fwyaf o wledydd eraill economi gymysg mewn bancio, sy’n darparu mwy o sefydlogrwydd ac atebolrwydd cyhoeddus. Mae arnom angen i fynediad at gyllid ar gyfer grwpiau nad ydynt yn cael gwasanaeth digonol gael ei gydnabod fel mater lles y cyhoedd, a dyna pam ein bod yn gofyn i Lywodraeth Cymru gymryd rhan fwy gweithredol yn darparu’r gwasanaeth sylfaenol a hanfodol hwn.
Mae’r Llywodraeth eisoes yn derbyn yr egwyddor o ymyrraeth uniongyrchol o ganlyniad i fethiant y farchnad mewn gwasanaethau ariannol. Dyna wedi’r cyfan oedd y rhesymeg wrth wraidd creu Cyllid Cymru yn ôl yn 2002, a dyna yw’r rhesymeg o hyd dros greu’r banc datblygu newydd. Wrth gwrs, bydd y banc datblygu yn dwyn yr enw ‘banc’, ond ni fwriedir iddo fod ar hyn o bryd yn sefydliad sy’n cymryd adneuon. Mae’n defnyddio cronfeydd cylchol neu fythwyrdd i ddarparu cyfalaf dyled neu ecwiti hirdymor, gan drosoli drwy bartneru gyda chyllidwyr eraill yn hytrach na defnyddio offeryn bancio wrth gefn ffracsiynol i greu credyd yn y ffordd y mae banciau’n ei wneud yn draddodiadol. Dyna pam y credaf fod angen i ni greu banc cyhoeddus i Gymru, fel y gallwn ddefnyddio’r offeryn trosoledd hwnnw a darparu’r cyfalaf ar lefel uwch yn fwy cyfartal ar draws ein cymunedau.
Mae tri model posibl y gellid eu dilyn: byddai un yn golygu bod y banc datblygu’n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau ariannol presennol i ddarparu mynediad at wasanaethau, o bosibl drwy rwydwaith o gyfleusterau ‘banc olaf yn y dref’ a rennir. Dyna’r math o drefniant neu bartneriaeth sydd gan y Bank of North Dakota, y sonnir amdano’n aml, banc sy’n eiddo cyhoeddus, gyda banciau yn y sector preifat yn ei dalaith. Wedi dweud hynny, mae llawer o’r sefydliadau y mae’r Bank of North Dakota yn cydweithio â hwy’n fanciau cymunedol eu hunain, sy’n rhan bwysig iawn o’r hyn sy’n cyfateb yn yr Unol Daleithiau i’r economi gymysg mewn bancio, a hyd yn hyn ychydig iawn o frwdfrydedd y mae banciau yn y DU wedi’i ddangos tuag at y model hwn o ganghennau niwtral a rennir a gafodd ei hyrwyddo ers amser maith gan yr Ymgyrch dros Wasanaethau Bancio Cymunedol.
Ail opsiwn fuasai i’r banc datblygu helpu i ddarparu cyfalaf ar gyfer rhwydwaith o fanciau cynilo lleol ar y cyd ag awdurdodau lleol, yn debyg i fodel sparkassen yn yr Almaen, er enghraifft, neu’r banciau cantonol yn y Swistir. Gallai’r banc datblygu cenedlaethol ddarparu gwasanaethau a rennir o ran y swyddfa gefn i’r rhwydwaith hwn o fanciau cynilo lleol. Dyma’r model a hyrwyddir gan y Community Savings Bank Association, sydd eisoes yn cael ei dreialu yn Hampshire gyda chymorth y sefydliad sparkassen rhyngwladol.
Trydydd opsiwn yw partneru gydag un o’r ychydig sefydliadau ariannol llwyddiannus sydd gennym yng Nghymru sy’n dal mewn perchnogaeth leol, y Principality. Roedd yn dda iawn eu gweld yn cyhoeddi canlyniadau ariannol ardderchog heddiw. Yr opsiwn yno yw eu helpu i ddatblygu hyd yn oed ymhellach i fod yn fanc clirio dan berchnogaeth gydfuddiannol.
Rydym yn gwbl agored ynglŷn â’r modd, ond mae’r nod o sicrhau banc i bobl Cymru yn un a ddylai ein huno i gyd yn y Siambr hon. Nawr fod mwy a mwy o’r banciau presennol yn troi eu cefnau ar ein pobl, mae’n bryd creu banc ar gyfer y bobl yma yng Nghymru mewn gwirionedd. Fe ildiaf.