<p>Polisïau Amaeth a Chefn Gwlad</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 28 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 1:30, 28 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Gweinidog am ei hateb. Bu gen i ddiddordeb yn yr hyn a ddigwyddodd yn y cyfarfod hwnnw yng Nghaeredin. Dywedodd Ysgrifennydd economi cefn gwlad yr Alban, Fergus Ewing

Ni chyflawnodd gyfarfod heddiw unrhyw beth. Nid oedd unrhyw wybodaeth ffeithiol o gwbl am unrhyw un o'r materion difrifol a godwyd gan ffermwyr.

Dywedodd Roseanna Cunnigham, sef Ysgrifennydd yr amgylchedd yn yr Alban, y bu gwyrgamu yn y cyfarfod gan Andrea Leadsom pryd bynnag y codwyd y mater datganoli, a dywedodd Gweinidog Brexit yr Alban, Mike Russell, y gallai Andrea Leadsom fod wedi bod mewn gwahanol gyfarfod i bawb arall. A yw Llywodraeth y DU wir yn deall yr hyn y mae datganoli polisïau amaethyddiaeth ac amgylcheddol yn ei olygu, ac a all y Gweinidog, yn lle’r Prif Weinidog, roi sicrwydd na fydd Llywodraeth Cymru yn caniatáu i Lywodraeth y DU gydio unrhyw un o’n polisïau datganoledig yn ôl?