Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 28 Chwefror 2017.
Mae arbenigwyr iechyd bellach yn dweud wrthym na ddylem ni fwyta dim ond pump y dydd, ond bod angen i ni fwyta 10 y dydd os ydym ni eisiau byw bywyd hir. Roeddwn i’n meddwl tybed pa drafodaethau a gafwyd ynghylch diogelu’r cyflenwad bwyd, yn sgil y gostyngiad i werth y bunt yn benodol, ac yn enwedig o ran ein gwneud ni’n fwy hunangynhaliol ar draws y DU o ran cynhyrchu ffrwythau a llysiau, ac roeddwn i’n meddwl tybed a yw hynny wedi cael ei drafod o gwbl yn y trafodaethau hyn ar lefel y DU.