<p>Polisïau Amaeth a Chefn Gwlad</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 28 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 1:34, 28 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Byddwn yn chwarae rhan ymarferol yn y gwaith o ddatblygu fframweithiau gyda Llywodraeth y DU, a gyda'r gwledydd datganoledig eraill hefyd. Rwy'n credu bod angen i ni ystyried lle mae angen fframweithiau a strwythurau y DU i ddisodli’r rhai a bennir gan yr UE ar hyn o bryd, ond rydym ni’n credu y bydd y rhain yn cael eu datblygu a’u cytuno ar y cyd. Mae hynny'n hanfodol bwysig—eu bod yn cael eu datblygu a'u cytuno ar y cyd, ac nid eu gorfodi, ac, yn bwysicaf oll, rhaid cael dull cyflafareddu annibynnol i ddatrys anghydfod ynghylch ddehongliad.