Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 28 Chwefror 2017.
Wel, ym mis Mawrth, wrth gwrs, cyhoeddwyd ein rhaglen llythrennedd a rhifedd genedlaethol, ac mae’r cynllun hwnnw yn rhoi gweledigaeth eglur iawn o'n strategaeth llythrennedd a rhifedd, ar gyfer y dyfodol. Mae'n sicrhau bod cefnogaeth barhaus sylweddol ar gyfer llythrennedd a rhifedd ar draws y cwricwlwm. A dangosodd adroddiad blynyddol Estyn yn 2015 bod safonau'n gwella yng Nghymru, a byddwn yn gweithio i gynnal y momentwm hwnnw.