<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 28 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:42, 28 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Arweinydd y tŷ, byddwch yn ymwybodol, yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, fy mod i wedi pwyso’r Prif Weinidog ar y cwestiwn o ehangu mynediad at gyffuriau a thriniaethau yng Nghymru. Heddiw, mae gennym ni rai pobl yn yr oriel gyhoeddus sy'n byw gyda sglerosis ymledol, a hoffwn eu croesawu nhw i'r Senedd. Maen nhw wedi gofyn i mi godi mater sydd o'r pwys mwyaf i ansawdd eu bywydau. Mae pawb yn y Siambr yn ymwybodol o'r anawsterau o gael mynediad at gyffuriau a thriniaethau penodol ar gyfer MS. Arweinydd y tŷ, beth yw barn Llywodraeth Cymru ar ba mor hawdd yw cael gafael ar y cyffuriau a’r triniaethau hynny?