<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 28 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:43, 28 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, arweinydd y tŷ. Rydym ni’n gwybod mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gymeradwyo Sativex, sy’n gyffur wedi’i seilio ar ganabis, ac a gymeradwywyd yn ôl yn 2014. Mae'r dystiolaeth gan gleifion sy'n derbyn Sativex ar bresgripsiwn yn gyson ac yn eglur: mae'n effeithiol, mae'n lleihau poen, mae'n lleihau sbasmau, ond mae mynediad at y cyffur yn anghyson. Canfu arolwg ar ran y Gymdeithas Sglerosis Ymledol mai dim ond 1 y cant o bobl a ddywedodd eu bod yn gymwys i dderbyn Sativex oedd â mynediad ato mewn gwirionedd. Awgrymodd yr arolwg hefyd ei bod yn ymddangos bod nifer y bobl sy'n byw gydag MS sy'n cymryd therapïau addasu clefydau yn is nag yn yr Alban neu Loegr. Ceir pryder gwirioneddol y bydd yr un mor anodd cael gafael ar gyffuriau a thriniaethau newydd eraill sy’n dod drwy'r system. Os ydych chi’n derbyn bod y cyffuriau hyn ar gael yn anghyson, a bod hynny’n rhwystr mawr i ansawdd bywyd dinasyddion yng Nghymru, pa adnoddau y mae Llywodraeth Cymru yn barod i’w dyrannu i’r seilwaith sy’n gysylltiedig ag MS, yn gysylltiedig â nyrsio a niwroleg MS, er mwyn helpu cleifion i gael y cymorth sydd ei angen arnynt?